Mwy o Newyddion
Rhaid i berchenogion osod microsglodyn ar eu cŵn erbyn mis Ebrill
O fis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd yn ofyniad cyfreithiol i osod microsglodyn ar bob ci yng Nghymru ar ôl i Aelodau'r Cynulliad bleidleisio i gymeradwyo'r rheoliadau newydd ddoe.
Bydd y Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015, sy'n dod i rym ar 6 Ebrill 2016, yn ei gwneud yn ofynnol rhoi microsglodyn ar bob ci dros 8 wythnos oed a chofrestru manylion y ceidwad ar gronfa ddata gymeradwy.
Mae deddfwriaeth yn rhan o gyfres o fesurau sydd â'r nod o wella lles cŵn yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwahardd coleri sioc electronig, cyflwyno safonau uwch ar gyfer bridio cŵn a chomisiynu adolygiad o dan arweiniad yr RSPCA ar sut i fod yn berchennog cyfrifol ar gi.
Yn dilyn y bleidlais yn siambr y Senedd, dywedodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans: "Byddwn yn annog perchennog pob ci sydd heb osod microsglodyn ar ei gi i wneud hynny cyn gynted ag y gallan nhw.
"Mae perchennog yn llawer mwy tebygol o gael hyd i gi sydd wedi mynd ar goll, wedi'i ddwyn neu'i anafu os oes microsglodyn wedi'i osod arno.
"Dylai'r gallu i gysylltu pob ci â'i berchennog annog perchenogion a bridwyr i fod yn fwy cyfrifol, a dylai helpu i reoli cŵn niwsans a pheryglus."
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yr Athro Christianne Glossop: "Mae microsglodynnu'n broses syml lle defnyddir nodwydd i fewnblannu microsglodyn bach o dan groen yr anifail. Yna mae'n rhaid i'r rhif cyfeirnod unigryw sy'n cael ei gadw ar y microsglodyn gael ei gofrestru ar gronfa ddata gyfatebol gyda manylion cyswllt ceidwad neu berchennog yr anifail."
Bydd yn dal yn ofynnol o dan y gyfraith i gi wisgo coler ac arno dag sy'n nodi enw a manylion cyswllt y perchennog pan fydd mewn lle cyhoeddus.
I gael rhagor o wybodaeth am ficrosglodynnu, cysylltwch â'ch milfeddyg neu arbenigwr gofal anifeiliaid anwes sydd wedi cael hyfforddiant addas. Mae rhai sefydliadau'r trydydd sector hefyd yn gallu cynnig cymorth i helpu unigolion i gael microsglodyn ei osod ar eu cŵn.