Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Hydref 2015

Datgelu harneisiau rasio ceir ffug a pheryglus

MAE harneisiau rasio ceir ffug a allai achosi marwolaeth wedi cael eu datgelu gan Safonau Masnach Sir Gaerfyrddin.

Mae'r harneisiau ffug sy'n dwyn yr enwau brand Sabelt, Sparco a Takata, wedi cael eu gwerthu ar eBay a Facebook gan fasnachwr yn Sir Gaerfyrddin, ymhlith amrywiaeth o ddillad a nwyddau ceir ffug.

Nid yw'r masnachwr sydd yng nghanol yr ymchwiliad yn cael ei enwi ar hyn o bryd wrth aros am erlyniad posibl, ond mae'r tîm safonau masnach yn rhybuddio pobl am yr harneisiau ffug i atal unrhyw un rhag cael eu hanafu neu eu lladd yn sgil defnyddio'r harneisiau hyn heb wybod eu bod yn beryglus.

Yn ogystal, mae'r tîm wedi rhyddhau fideo brawychus sy'n dangos 'methiant catastroffig' yr harnais chwe-phwynt Sparco ffug wrth iddo fethu o dan amodau prawf diogelwch wedi'i reoli a hynny ar gyflymder o 50mya yn unig.

Roedd yr harnais wedi methu ar sawl cyfrif, sy'n dangos y gallai achosi marwolaeth neu anafiadau difrifol wrth iddo gael ei ddefnyddio mewn sefyllfa go iawn dan amodau arferol.

Roedd yr harnais ffug a brofwyd yn dwyn y brand Sparco. Mae perygl gwirioneddol y gallai'r harneisiau Sabelt a Takata ffug a werthwyd gan y masnachwr hwn hefyd fethu yn yr un modd.

Mae'r Tîm Safonau Masnach yn gweithio'n agos â chynhyrchwyr y cynnyrch swyddogol ac awdurdodau  perthnasol y llywodraeth er mwyn cyhoeddi rhybudd cenedlaethol ynghylch yr harneisiau ffug. 

Mae'r cwsmeriaid y gwyddys eu bod wedi prynu harneisiau Sparco, Sabelt a Takata ffug gan y masnachwr hwn wedi cael eu cynghori i'w tynnu o'u cerbydau ar unwaith a cheisio cyngor sifil.

Mae'r tîm wedi pwysleisio nad oes dim problemau diogelwch ynghylch harneisiau Sparco, Sabelt a Takata dilys, sydd i gyd yn frandiau dibynadwy yn y diwydiant rasio ceir.

Mae Safonau Masnach yn annog cwsmeriaid i brynu'n unig drwy gyflenwyr awdurdodedig y brand y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo pan fyddant yn mynd ati i brynu harnais newydd. 

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiogelu'r Cyhoedd: “Rydym yn pryderu'n fawr ynghylch y cynnyrch ffug hwn. Mae’r nwyddau nid yn unig yn ffug ac wedi cael eu gwneud yn wael, ond gallent hefyd achosi marwolaeth.

“Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda chynhyrchwyr swyddogol harneisiau Sabelt, Sparco a Takata i helpu cwsmeriaid wybod a ydynt wedi prynu harnais dilys neu harnais ffug sydd wedi cael ei fewnforio.”

Dylai unrhyw un sydd â phryderon ynghylch harneisiau, neu nwyddau diogelwch eraill ar gyfer rasio ceir a brynwyd gan werthwr answyddogol neu am bris gostyngol, gysylltu â'u tîm Safonau Masnach lleol i ofyn am gyngor. Yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â Safonau Masnach drwy e-bostio safonaumasnach@sirgar.gov.uk  neu ffonio 01267 234567.

Llun: Prif swyddog Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin, Aled Thomas, a'r Cyng Jim Jones gydag un o'r harneisiau rasio ceir ffug. Llun: Jeff Connell

Rhannu |