Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Hydref 2015

Yes Cymru yn galw am bwerau priodol i Gymru

Mae'r drafft Mesur Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn sarhad ar bobl Cymru ac yn sarhad ar ddemocratiaeth ac yn dangos cyn lleied mae Cymru yn golygu yng llygaid San Steffan yn ôl Yes Cymru.

Nid yw'r mesur yn dod ag unrhyw bwerau gwirioneddol i'n gwlad, ac mae'n gadael Cymru mewn limbo rhwng Cynulliad Cenedlaethol sy'n fwriadol wan ac aneffeithiol a sefydliadau San Steffan sydd ddim yn poeni dim am Gymru, ei phobl na'i dyfodol.

Dywedodd Llefarydd dros YesCymru: "Mae Cymru'n haeddu gwell. Rydym yn haeddu deddfwriaeth cadarn a fydd yn ein harfogi fel cenedl gyda'r pwerau sydd angen arnom i fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu ein cymunedau.

"Mae cynnal y status quo, a chael penderfyniadau allweddol am Gymru yn cael eu gwneud o San Steffan, yn system sydd yn amlwg wedi methu pobl Cymru. Rydym yn un o wledydd tlotaf y Deyrnas Unedig, a gorllewin Ewrop, a'r unig ffordd y gallwn ddatblygu a thyfu ein heconomi a chefnogi ein cymunedau yw trwy gael y pwerau llawn dros y penderfyniadau sy'n effeithio ein bywydau.

"Pam y dylai Cymru gael ei gadael gyda sbarion yn unig, pan mae Gogledd Iwerddon a'r Alban yn cael mwy o rym dros eu materion eu hunain?

"Pam na ddylem ni gael ein trin yn gyfartal â gwledydd eraill y DU?

"Ni fydd pobl Cymru yn setlo ar sbarion o San Steffan. Mae pobl Cymru yn haeddu gwell."

Rhannu |