Mwy o Newyddion
'Drafft Mesur Cymru yn egwan' - Leanne Wood
Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i gyhoeddiad y Mesur Cymru diweddaraf gan Lywodraeth y DG gan ei alw'n egwan.
Beirniadodd hi hefyd Lywodraeth Lafur Cymru am beidio gwneud digon i sicrhau fod pwerau yn cael eu trosglwyddo o Whitehall i Gymru.
Dywedodd Leanne Wood: "Mae'r drafft Mesur Cymru yn ei ffurf bresennol yn sarhad i'n gwlad. Mae ond yn cynnwys cyfran fach iawn o'r materion a gytunwyd arnynt gan bob plaid flynyddoedd yn ol drwy adroddiad y Comisiwn Silk.
"Yn y bôn, mae'r Mesur yn cadarnhau statws Cymru fel cenedl eilradd o fewn y Deyrnas Gyfunol.
"Drwy gydol y broses hon mae Plaid Cymru wedi ceisio cytundeb ar faterion mae'r pleidiau ôll wedi cytuno arnynt yn y gorffennol. Rydym wedi gweithio'n gadarnhaol ac wedi bod yn barod i gwrdd ag eraill hanner ffordd.
"Yn anffodus, mae Llywodraeth y DG yn anfodlon hwyluso'r math hwnnw o ganlyniad ac mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi profi nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifri ar lefel Brydeinig.
"Mae'r drafft Mesur hefyd yn mynd yn gwbl groes i addewid y Prif Weinidog ei hun i sicrhau 'setliad cytbwys' i genhedloedd y DG.
"Mae hi'n gwbl annerbyniol fod Cymru unwaith eto yn cael ei thrin yn afresymol ac yn cael ei hamddifadu o bwerau mae cenhedloedd eraill yn eu cymryd yn ganiataol.
"Bydd Plaid Cymru yn ceisio gosod gwelliannau i'r Mesur er mwyn ceisio sicrhau canlyniad teilwng i bobl Cymru.
"Bydd hyn yn cynnwys creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, datganoli heddlua, mwy o bwerau i warchod unigolion bregus a phwerau llawn dros adnoddau naturiol.
"Rydym eisiau datganoli gyda diben - a'r diben hynny yw creu cenedl gyda'r offer angenrheidiol i wireddu ei photensial.
"Ni fyddwn yn bodloni ar unrhyw setliad sy'n trin Cymru yn eilradd i wledydd eraill y Deyrnas Gyfunol."