Mwy o Newyddion
Talu am ffolineb y bancwyr
MAE trefnydd gorymdaith yng Ngheredigion i wrthwynebu toriadau llywodraeth San Steffan yn dweud ei fod wedi ei “galonogi” pan drodd dros 200 o bobl allan mewn rali yn Aberystwyth ddydd Sadwrn diwethaf.
Yn ôl Douglas Jones, aelod o grŵp ymgyrchu Ceredigion yn Erbyn y Toriadau, roedd pob carfan o’r gymdeithas yn cael eu cynrychioli yn y rali awyr agored yng Nghastell Aberystwyth, ac mae hynny’n profi, meddai, fod pobl ar lawr gwlad yn teimlo’n “ddig a phryderus” ynglŷn â chynlluniau’r llywodraeth glymblaid yn Llundain i dorri’n ôl ar wariant cyhoeddus.
Ac ar ben hynny, meddai, mae llywodraeth San Steffan yn dal i osgoi mynd i’r afael â’r rheiny sy’n gyfrifol am y llanast economaidd – sef y bancwyr, sy’n dal i dderbyn taliadau bonws.
“O warchodwyr a staff cartref Bodlondeb, gweithwyr iechyd, gweithwyr llywodraeth leol a llywodraeth y Cynulliad, athrawon, darlithwyr a llyfrgellwyr i fyfyrwyr a grwpiau cymunedol, roedden nhw i gyd yn y rali,” meddai Douglas Jones.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA