Mwy o Newyddion

RSS Icon
20 Hydref 2015

Biwrocratiaeth y Safonau Iaith yn bygwth llethu ymarfer da

Mae perygl bod biwrocratiaeth y Safonau Iaith yn mynd i lethu ymarfer da mewn cyrff cyhoeddus. Dyna’r pryder bydd cynrychiolwyr y mudiad Dyfodol i'r Iaith yn ei fynegi mewn cyfarfod â Chomisiynydd y Gymraeg yr wythnos hon.

Ar frig yr agenda bydd trafodaeth ynglŷn â'r Safonau Iaith yng nghyd-destun maniffesto diweddar Dyfodol, Creu Dyfodol i'r Gymraeg. Mae'r ddogfen hon yn gofyn am symud y pwyslais oddi wrth reoleiddio ac amddiffyn y Gymraeg tuag at ei hyrwyddo fel iaith fyw yn y cartref a'r gymuned.

Wrth i ofynion y Safonau gael eu gosod ar awdurdodau lleol, cafwyd eisoes wrthwynebiadau gan wahanol Gynghorau. A tra bo gwrthwynebiadau Cynghorau megis Wrecsam yn peri fawr o syndod, mae'n arwyddocaol iawn y bod Cyngor Gwynedd wedi herio 55 o'r Safonau a osodwyd arnynt.

Gofid y Cyngor yw y bydd rhai o'r gofynion yn cynrychioli cam yn ôl: Bod y pwyslais ar gynnig "dewis" iaith yn tanseilio ei ymdrechion i hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith swyddogol a dewis diofyn i ddefnyddwyr a'r gweithlu.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: "Ymddengys fod biwrocratiaeth y Safonau a'u pwyslais ar ddarpariaeth unffurf yn bygwth llethu ymarfer da.

"Bu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i hyrwyddo a blaenoriaethu’r Gymraeg yn esiampl o'r hyn y mae modd i'w gyflawni.

"Mae hefyd, wrth gwrs, yn bolisi sy'n adlewyrchu dymuniadau ac anghenion trigolion y sir. Edrychwn ymlaen at drafodaeth gadarnhaol gyda'r Comisiynydd i geisio gwrthdroi'r sefyllfa druenus hon."

Rhannu |