Mwy o Newyddion
Sut ydych chi’n mesur cynnydd cenedl?
Mae cynlluniau newydd sy’n nodi sut i fesur cynnydd cenedl wedi’u datgelu gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Mae’r cynllun, sydd bellach yn destun ymgynghoriad, yn amlinellu sut y bydd y 40 o ddangosyddion cenedlaethol yn helpu Llywodraeth Cymru i fesur y genedl mewn meysydd megis iechyd, yr amgylchedd, addysg a’r economi.
Mae’r dangosyddion, fydd yn helpu Cymru gyfan i gyrraedd yr amcanion uchelgeisiol a benwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), yn cynnwys:
* Bywyd hir a iach i bawb
* Pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda sgiliau a chymwysterau
* Pobl mewn gwaith
* Ansawdd tai
* Pobl yn defnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd; ac
* Ansawdd yr aer
Cyhoeddir adroddiad bob blwyddyn sy’n dangos pa gynnydd sydd wedi’i wneud ledled Cymru ar gyflawni’r saith nod llesiant yn y Ddeddf, gan ddefnyddio’r dangosyddion cenedlaethol.
Meddai’r Prif Weinidog: “Mae addysg, ansawdd bywyd a’r amgylchedd y maent yn byw ynddi yn hollbwysig i lewyrch cenedl – ond sut mae mesur y pethau hyn?
“Heddiw (Dydd Llun, 19 Hydref), rydym yn lansio ymgynghoriad mawr i gasglu barn pobl am beth ddylai ein dangosyddion cenedlaethol fod. Yn syml, sut ydym ni, fel llywodraeth, yn mesur cenedl.
“Dyma gyfle gwych i gyrff cyhoeddus, unigolion a sefydliadau ddweud eu dweud ar sut yr ydym i barhau i ddatblygu ac adeiladu y Gymru yr ydym ei heisiau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd arnom i gyd i sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn ganolog yn y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud heddiw.
“O dan y Ddeddf, mae’n rhaid i’r Dangosyddion Cenedlaethol fod yn gysylltiedig â llesiant pawb yng Nghymru, o’r unigolyn, i gymunedau, ar draws y llywodraeth i’r sector cyhoeddus a busnes yn ehangach. Nid ydynt yn cyfeirio at nodau neu lwyddiannau y llywodraeth yn unig, ond at roi darlun llawer mwy cyflawn o gynnydd y genedl yn gyffredinol.”