Mwy o Newyddion
Toriadau credydau treth yn taro miloedd o deuluoedd mewn gwaith
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards AS, wedi rhybuddio y bydd y blaid Geidwadol yn talu'r pris yn Etholiad y Cynulliad am doriadau'r Canghellor i gredydau treth.
Dywedodd Mr Edwards, sydd wedi gwrthwynebu'r toriadau o'r cychwyn, y bydd y newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno fis Ebrill 2016 yn taro 124,300 o deuluoedd yng Nghymru, pob un o'r teuluoedd hynny mewn gwaith.
Wrth siarad cyn dadl yr wrthblaid heddiw (dydd Mawrth) ar gredydau treth, dywedodd Jonathan Edwards AS: "Gyda bron i chwarter miliwn o deuluoedd yng Nghymru yn derbyn credydau treth, bydd y blaid Geidwadol yn talu'r pris yn Etholiad y Cynulliad am doriadau creulon a di-feddwl y Canghellor.
"Y prif grwp fydd yn cael ei effeithio gan y newidiadau i gredydau treth fis Ebrill nesaf fydd teuluoedd mewn gwaith sy'n gymwys i dderbyn Credydau Treth Gwaith. Dyna 124,300 o deuluoedd yng Nghymru.
"Yn groes i sbin Llywodraeth y DG, ni fydd y cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd a'r Lwfans Personol yn ddigon o bell ffordd i wneud yn iawn am golli credydau treth. Mae ymchwil yr Institute for Fiscal Studies yn dangos y bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol newydd ond yn gwneud yn iawn am tua 26% o'r hyn fydd yn cael ei golli yn sgil toriadau i fudd-daliadau a chredydau treth, gyda disgwyl i deulu mewn gwaith golli £1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd.
"Os edrychwn ni ar enghraifft o gwpwl gyda dau o blant ac un rhiant mewn gwaith, heb gostau gofal plant ac yn gweithio 35 awr yr wythnos ar y Cyflog Byw Cenedlaethol: bydd incwm y teulu hwn, o sytyried newidiadau i gredydau treth, y Cyflog Byw, Budd-dal Plant a'r Lwfans Personol - oll wedi eu cyhoeddi yng Nghyllideb yr Haf - yn gostwng pob blwyddyn.
"Dan gynlluniau'r Ceidwadwyr, byddai'r teulu yn colli tua £1,789 bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf. Erbyn 2021 byddai'r teulu wedi colli £8,945.
"Fel y rhybuddiodd Plaid Cymru yn dilyn y gyllideb frys, bydd toriadau i gredydau treth yn gadael rhai o'r teuluoedd tlotaf mewn gwaith ar eu colled, ac yn cael effaith uniongyrchol ar wario mewn economiau lleol. Bydd cynlluniau'r Ceidwadwyr yn cael effaith anghymesur ar gymunedau ble fo cyflogau'n isel yn gyffredinol.
"Plaid Cymru yw'r unig blaid yng Nghymru sydd wedi gwrthwynebu toriadau'r Ceidwadwyr o'r cychwyn. Fis Ionawr, cefnogodd ASau Llafur y Siarter dros Gyfrifoldeb y Gyllideb sydd wedi arwain y ffordd at £30bn o doriadau yn y Senedd hon.
"Roedd toriadau i Gredydau Treth yn rhan o'r Mesur Cyllid a gafodd ei Ail Ddarlleniad fis Gorffennaf 2015. Y Mesur Cyllid yw'r mecanwaith deddfwriaethol a ddefnyddir i weithredu mesurau o Gyllideb yr Haf. Ymatal wnaeth y mwyafrif helaeth o ASau Llafur ar y bleidlais hon. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn Mesur Cyllid y Toriaid.
"Mae Plaid Cymru yn cydnabod yr angen i dorri'r bil credydau treth. Dyna pam ein bod wedi hyrwyddo'r polisi o gyflwyno Cyflog Byw go iawn a fyddai'n arbed £1.5bn i'r Trysorlsy bob blwyddyn yn sgil mwy o bobl yn talu treth, mwy o gyfraniadau yswiriant cenedlaethol, a lleihad yn nhaliadau credydau treth.
"Ni fydd ymdrechion sinigaidd George Osborne i ail-frandio'r cyflog byw yn cau'r bwlch cyllidol sy'n wynebu teuluoedd yn sgil ei newidiadau i gredydau treth.
"Gyda disgwyl i'r newidiadau hyn ddod i rym ond wythnosau cyn Etholiad y Cynulliad, bydd y Ceidwadwyr a'r blaid Lafur a eisteddodd ar eu dwylo yn talu'r pris yn y blwch pleidleisio."