Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Hydref 2015

Angen setliad radical a chryf i sicrhau cydraddoldeb i Gymru

Mae Liz Saville Roberts AS Plaid Cymru wedi rhybuddio yn erbyn Mesur Cymru 'gwan a gwag', gan ddweud y byddai deddfwriaeth annigonol yn dibrisio'r broses ddatganoli.

Dywedodd Liz Saville Roberts, sy'n aelod o'r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig, fod Plaid Cymru am weld drafft mesur radical a chryf fyddai'n arwydd o gam mawr ymlaen ar daith Cymru tuag at ddemocratiaeth aeddfed.

Rhybuddiodd hi fod datganoli bob-yn-dipyn yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag cael yr offer mae ei angen i weithredu fel sefydliad atebol, a beirniadodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru am arllwys dwr oer ar y syniad o sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru.

Wrth siarad cyn cyhoeddi Drafft Mesur Cymru fory (dydd Mawrth), dywedodd Liz Saville Roberts AS: "Gobaith Plaid Cymru yw y bydd Drafft Mesur Cymru yn ddarn cryf o ddeddfwriaeth fydd yn grymuso'r Cynulliad gyda phwerau dros feysydd pwysig sy'n effeithio bywydau pobl bob dydd.

"Ar heddlua, ynni, adnoddau naturiol, darlledu a chyfiawnder, rydym wedi mynnu erioed fod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn well pan yn agosach at y rhai maent yn eu heffeithio.

"Am lawer rhy hir, mae'r blaid Lafur wedi bod yn barod i adael pwerau yn nwylo'r Ceidwadwyr yn San Steffan, yn ddigon bodlon i weld bai yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb dros y pwerau hynny eu hunain.

"Mae hyn wedi gadael Cymru gyda datganoli bob-yn-dipyn sy'n atal y Cynulliad rhag gweithredu fel sefydliad llawn atebol ac yn rhwystro democratiaeth Gymreig rhag aeddfedu.

"Un agwedd hanfodol o hyn yw'r ffaith fod pleidiau San Steffan yn gwrthod cefnogi sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. Tra bod Plaid Cymru wedi cefnogi'r cam hwn ers blynyddoedd, mae Llafur a'r Toriaid wedi anwybyddu galwadau gan nifer cynyddol o arbenigwyr a chyfreithwyr sy'n credu y byddai awdurdodaeth benodol i Gymru yn sicrhau gwell llywodraethiant.

"Mae Mesur Cymru yn gyfle euraidd i roi setliad cryf a theg i'n cenedl sy'n sicrhau cydraddoldeb i Gymru gyda chenhedloedd eraill y DG.

"Nid yw Cymru yn genedl eilradd ac nid yw ein pobl yn haeddu dim llai na chydraddoldeb. Os yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cytuno, rwy'n gobeithio y bydd yn defnyddio'r Mesur hwn i wireddu'r gred honno."

Rhannu |