Mwy o Newyddion
Chwech yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel
BYDD chwech o berfformwyr ifanc dawnus Cymru yn cystadlu am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni.
Bydd y gyngerdd yn cael ei chynnal yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon nos Sul, ac yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C gydag Anni Llŷn a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno.
Mewn ail raglen, yr un noson, byddwn yn clywed pwy fydd enillydd y teitl a’r wobr ariannol o £4,000 i’w defnyddio i ddatblygu eu talent i’r dyfodol.
Dewiswyd y chwech gan banel o feirniaid oedd yn gorfod dethol y chwe unigolyn mwyaf addawol o blith holl gystadlaethau unigol categorïau dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch eleni.
Stifyn Parri, Gwawr Owen, Gwenan Gibbard, Siân Teifi a Catrin Lewis Defis oedd ar y panel dewis a nhw hefyd fydd yn penderfynu pwy fydd yn ennill yr ysgoloriaeth ar y noson yng Nghoed Duon.
Y chwech sy’n cystadlu am yr ysgoloriaeth yw:
* Steffan Rhys Hughes o Langwyfan ger Dinbych
* Rhodri Prys Jones o Lanfyllin
* Sarah-Louise Jones o’r Rhondda
* Meinir Wyn Roberts o Gaernarfon
* Alys Mererid Roberts o Gricieth
* Gwen Elin o Fenllech
Yn arwain at y gyngerdd, mae’r chwe cystadleuydd wedi derbyn dosbarthiadau meistr gan berfformwyr amlwg. Roedd y gweithdai yn gyfle iddynt dderbyn cyngor ar y darnau maent wedi eu dewis ar gyfer yr ysgoloriaeth.
Y rhai fu’n cynnig cyngor gwerthfawr eleni oedd y canwr a chyflwynydd Wynne Evans; y gantores opera Fflur Wyn; y gantores a’r actores Connie Fisher; yr actor Rhys ap Trefor; yr athro canu Ian Baar; a’r soprano Susan Bullock.
Wedi ei sefydlu yn 1999, mae’r wobr yn ceisio meithrin talent rhai o berfformwyr ifanc gorau Cymru.
Yn ogystal â’r wobr ariannol, mae’r ysgoloriaeth hefyd yn cysylltu enw’r enillydd â’r canwr enwog Bryn Terfel, sy’n awyddus iawn i gefnogi datblygu talent newydd yng Nghymru
Dywedodd Bryn Terfel: “Mae’n bwysig bod y cystadleuwyr yn gwrando ar gyngor gan athrawon ac yn y dosbarthiadau meistr, ond hefyd yn cofio cadw stamp personol ac unigryw ar y perfformiad. Mae’n bwysig eu bod yn gyfforddus gydag unrhyw berfformiad, gan gadw o fewn eu terfynau.
“Mae hefyd yn bwysig cadw, os yn bosib, rheolaeth daclus ar y nerfau. Wrth gwrs mae hyn yn effeithio ar bawb mewn ffyrdd tra gwahanol ond rhaid ceisio troi’r nerfau yn fantais yn hytrach nag yn anfantais.
“Yn bwysicaf oll wrth gwrs, mae’n bwysig mwynhau perfformio. Ar ôl yr astudio a’r gwaith caled, byddai’n drueni mynd ar y llwyfan heb yr ysfa i roi cant y cant – ewch amdani achos un cyfle sydd!”
Mae tocynnau ar gyfer y gyngerdd yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon ar gael am £10 o wefan yr Urdd neu drwy ffonio 0845 257 1639.
* Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2015. Nos Sul 25 Hydref 7.00 a 10.00, S4C. Cynhyrchiad Avanti Media ar gyfer S4C