Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Hydref 2015

Brycheiniog a Maesyfed yn gwahodd Eisteddfod yr Urdd yn 2018

Nos Fawrth, 10 Tachwedd am 7pm bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Ysgol y Bannau, Aberhonddu i drafod bwriad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i ymweld â Brycheiniog a Maesyfed yn 2018.

Bydd cynghorau lleol, cyrff cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol a’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod i drafod y bwriad o gynnal yr Eisteddfod yn yr ardal yn 2018.

Yn annerch yn y cyfarfod bydd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd, Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, W. Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau a chynrychiolydd o Gyngor Powys.

Hwn fydd y cyswllt cyntaf rhwng Adran yr Eisteddfod a thrigolion yr ardal, ac yn y cyfarfod, os bydd gwahoddiad ffurfiol yn cael ei estyn i’r eisteddfod, bydd yr Urdd yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a gwybodaeth yn cael ei rannu am ddyddiadau y pwyllgorau testunau.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones: “Mae gwirfoddolwyr yr Urdd a’r Cyngor eisoes wedi datgan eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i’r Ŵyl ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr i gyfarfod â thrigolion yr ardal gyda’r gobaith o ddod â’n Prifwyl i Frycheiniog a Maesyfed yn 2018.”

Ychwanegodd Aled Siôn:, “Rydym eisoes wedi derbyn cefnogaeth Pwyllgor Rhanbarth yr Urdd ym Mrycheiniog a Maesyfed a bwriad y cyfarfod hwn fydd derbyn sêl bendith yr ardal – y cymdeithasau, mudiadau, sefydliadau a’r trigolion – i ddod ag Eisteddfod yr Urdd i’r ardal.

"Nid ydym wedi ymweld gyda’r ardal ers Eisteddfod Llanelwedd yn 1978, a byddai’n braf iawn cynnal ein Eisteddfod Genedlaethol yn y rhan yma o Gymru unwaith eto.”  

Rhannu |