Mwy o Newyddion
Blas o’r hyn sydd i ddod gan Pontio
Aeth tocynnau i rai o’r sioeau yn nhymor agoriadol Pontio ar werth 10yb heddiw, cyn lansiad y rhaglen gyflawn ar Hydref 28.
Ymysg yr arlwy sy’n cael ei gyflwyno heddiw mae cyngerdd Nadolig gan Only Men Aloud yn Theatr Bryn Terfel ar Ragfyr 18, a’r digrifwr Russell Kane, fydd yn dod a’i sioe Right Man, Wrong Age i Fangor ym mis Ebrill flwyddyn nesaf.
Mae gan y digwyddiadau hefyd flas lleol, gyda chyngerdd gan Côr y Penrhyn.
Yn ymuno â hwy ar Ddydd Sadwrn, 5 Rhagfyr mae Côr Meibion Llanelli, yng nghwmni’r cerddorion ifanc a thalentog Glain Dafydd ar y delyn a’r soprano Meinir Wyn Roberts.
Bydd dau gyngerdd ychwanegol ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr gan Gerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor a’r Corws a Côr Siambr, gyda cherddorion ifanc o’r ardal, yn Neuadd Prichard-Jones.
Ceir hwyl i’r teulu ac ysgolion hefyd, gydag Ysgol Tryfan yn llwyfannu eu sioe Y Bancsi Bach yn Theatr Bryn Terfel rhwng 9-11 o Ragfyr ac wrth i Gwmni Mega ddod a’i panto Cymraeg, Melltith y Brenin Lludd, i Theatr Bryn Terfel rhwng 16-18 o Ragfyr.
I ffans y byd opera, bydd Ffigaro a Ffrindiau: Dathliad Opera gan Opera Canolbarth Cymru ar ddydd Mercher 2 Rhagfyr yn gyfle i ymuno â chwech o sêr y dyfodol yn y byd opera, gan gynnwys Sara Lian Owen, sy’n wreiddiol o’r ardal, mewn detholiad o “Le Nozze di Figaro” gan Mozart ac “Il Barbiere di Siviglia” gan Rossini.
Dywedodd Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio: “Rydym yn falch o gyflwyno blas o’r hyn sydd i ddod yn Pontio, ac mae’r arlwy’n adlewyrchu ein dymuniad i ddarparu ystod eang o ddigwyddiadau i’n cynulleidfaoedd fwynhau.
"Edrychwn ymlaen at gyhoeddi ein rhaglen agoriadol ddiwedd y mis, ac yn fwy na dim, eich croesawu i Pontio.”
Mae tocynnau ar gael arlein o www.tocynnau.pontio.co.uk, neu drwy ffonio 01248 38 28 28 neu ymweld â Siop Pontio ar Stryd Fawr Bangor.