Mwy o Newyddion
Lliwiau hydrefol ar eu gorau ym Mhlas Tan y Bwlch
Yn dilyn tywydd heulog a chynnes mis Medi, mae arbenigwyr natur yn darogan arddangosfa odidog o liwiau hydrefol ar ddail coed yn ystod yr wythnosau nesaf.
Oherwydd y lefelau uchel o haul, ynghyd â thymheredd uwch na’r arferol a brofwyd yn ystod mis Medi eleni, mae coed Eryri wedi cynhyrchu symiau mawr o fwyd. Storiwyd y bwydydd yn y dail fel startsh a siwgrau, ac yn ôl y darlledwr a’r garddwr Tony Russell, dyma’r elfennau sy’n rhoi’r lliwiau coch, aur ac oren caleidosgopaidd i ddail yr hydref.
“Po fwyaf o fwyd gaiff y coed, y mwyaf lliwgar fydd lliwiau’r dail,” meddai, “ac un o’r gerddi gorau i weld lliwiau’r dail yn newid yw ym Mhlas Tan y Bwlch, wrth galon Parc Cenedlaethol Eryri.
"O fewn y gerddi Fictoraidd yma mae cannoedd o goed a llwyni yn amrywio o’r Dderwen Americanaidd i’r Fasarnen Siapaneaidd, yn arddangos rhai o’r lliwiau gorau i’w gweld ar ddail ers tro. Y darogan yw y bydd y lliwiau hyn y parhau drwy fis Tachwedd.”
Mae nifer o lwybrau yn tywys ymwelwyr drwy’r lliwiau hydrefol i’w canfod ym Mhlas Tan y Bwlch. Am y tro cyntaf eleni, mae modd i blant ac oedolion fwynhau’r llwybrau yng ngerddi’r Plas gan fod llwybr penodol, a thaith hunan dywys “Llwybr Darganfod Plas” wedi ei sefydlu ar gyfer yr ymwelwyr iau. Bwriad y daith yw i annog plant ddarganfod mwy am fywyd gwyllt yn y gerddi.
Yna, tu hwnt i’r gerddi mae mwy o lwybrau i’w dilyn drwy’r cannoedd o erwau o goedlannau y tu ôl i’r Plas. Yno, gwelir mwy o liwiau hydrefol godidog ac mae mwy o fanylion am y llwybrau hyn i’w cael ym Mhlas Tan y Bwlch.