Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mai 2011
Karen Owen

Huw Jones yn gwella ar ôl cyhoeddiad San Steffan

PAN oedd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi ddechrau’r wythnos hon mai Huw Jones oedd eu dewis nhw ar gyfer job Cadeirydd Awdurdod S4C, roedd y dyn ei hun newydd ddychwelyd adref o’r ysbyty.

Erbyn hyn, mae Y Cymro wedi siarad â Huw Jones ac yn deall ei fod wedi dychwelyd i’w gartref yn Llandwrog ger Caernarfon ddydd Gwener diwethaf, ar ôl treulio amser yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn dioddef o niwmonia. Mae “yn dal yn sâl”, ond yn gwella.

“Rydw i adra ac yn gwella,” meddai Huw Jones wrth Y Cymro. “Mae’n debyg mai rhyw fath o niwmonia ydi o, ond does gynno fo ddim byd i’w wneud â’r cyhoeddiad!”

Ddydd Llun, mewn datganiad gan Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth San Steffan (y DCMS, sy’n ariannu S4C), cyhoeddwyd mai Huw Jones oedd eu dewis nhw ar gyfer cadeiryddiaeth S4C.

Cyn y bydd yn cael ei benodi’n swyddogol, bydd yn gorfod ymddangos gerbron dau bwyllgor seneddol yn Llundain, Y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon; ynghyd â’r Pwyllgor Materion Cymreig, a fydd yn rhoi sêl bendith i’r penodiad. Fe fydd y ddau wrandawiad yn digwydd ar y cyd yn San Steffan wythnos i ddydd Mawrth nesaf (24 Mai).

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |