Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Hydref 2015

Arweinydd Plaid Cymru’n galw am ailfeddwl TTIP

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw ar arweinwyr yr UE heddiw i ailfeddwl cynigion ar gyfer bargen newydd rhwng yr UDA a’r UE fyddai’n gwneud llywodraethau democrataidd yn ddarostyngedig i lysoedd corfforaethol uwch genedlaethol ac a fyddai’n bygwth gwasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd fod y cytundeb, sydd yn cael ei alw’n TTIP – yn mynd yn groes i’r ymdrechion sydd yn cael eu gwneud i adeiladu Ewrop gymdeithasol sydd yn gosod pobl o flaen marchnadoedd.

Dywedodd Leanne Wood: “Mae TTIP yn uniad rhwng marchnad gyffredin  yr Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau, ond heb y mesurau amddiffyn cymdeithasol a gwleidyddol sydd yn ein hamddiffyn ar hyn o bryd rhag anghymedroldebau gwaetha’r marchnadoedd rhydd, dilyffethair.

“Bydd TTIP yn peri i Ewrop fod yn ddarostyngedig i reoleiddiad ‘ysgafn’ Americanaidd mewn perthynas ag arferion corfforaethol a’r modd y caiff  cwmniau eraill eu cymryd drosodd. Bydd yn gosod cysgod cyson o ansicrwydd dros wasanaethau cymdeithasol, fyddai’n wynebu cael eu cymryd drosodd yn ymosodol gan gwmniau preifat.

“Bydd yn sichau elw corfforaethau am y dyfodol fel y gallai unrhyw newidiadau i gyfreithiau neu reoliadau gan lywodraethau a etholir yn ddemocrataidd, fod yn agored nid yn unig i gael eu herio’n gorfforaethol, ond hefyd gallai olygu bod trethdalwyr yn gorfod talu am golled potensial unrhyw elw chwedlonol yn y dyfodol.

“Er mwyn sicrhau bod cwmniau aml-rhyngwladol yn cael eu hamddiffyn rhag sefydlaidau democrataidd, ni fyddai penderfyniadau’n ddarostyngedig i’n barnwriaeth ein hunain ond i lysoedd corfforaethol preifat, tu ôl i ddrysau caeedig.

“Dylai methiant y marchnadoedd yn ystod y cwymp ariannol a’r agenda llymder niweidiol a ddilynodd, fod yn ddigon o reswm i arweinwyr Ewrop ailddechrau adeiladu Ewrop gymdeithasol sydd yn rhoi anghenion pobl a gwasanaethau o flaen marchnadoedd a chorfforaethau.

“Os ychwanegwch i hynny’r ffaith bod pobl yn y Deyrnas Gyfunol yn wynebu refferendwm ar p’un a ddylen nhw aros yn yr UE neu beidio, yna mae’n hanfodol bod Ewrop yn gallu profi ei fod ar ochr ei ddinasyddion a’i fod yn cynnal egwyddorion democratiaeth ac atebolrwydd ddemocrataidd.

“Mae TTIP yn enghraifft o hyder enfawr y neo-ryddfrydwyr ac mae Plaid Cymru’n galw am ei roi yn ei le.”

Rhannu |