Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Hydref 2015

Prosiect adfywio yn anelu at godi £35,000 mewn 28 diwrnod

Codi £35,000 mewn 28 diwrnod – dyna’r her nesaf i’r grŵp cymunedol sy’n ceisio prynu Siop Griffiths ym Mhenygroes.

Mae Dyffryn Nantlle 2020 wedi lansio’r apêl ar wefan Crowdfunder heddiw i geisio codi hanner yr arian i brynu Siop Griffiths, adeilad hanesyddol ac eiconig yng nghanol Penygroes.

Mae’r grŵp wedi mynd ati fel lladd nadrodd  i godi’r hanner arall o’r gymuned – rhaid codi’r £70,000 i gyd erbyn 1 Rhagfyr.  Wedi lansio’r ymgyrch fis yn ôl, maent wedi llwyddo i godi £15,000 o’r gymuned leol yn unig yn ystod y pedair wythnos gyntaf.

“Cawsom ymateb anghygoel gan y gymuned leol i’n hymdrech,” meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd Dyffryn Nantlle 2020. “Mae gan yr adeilad le arbennig yng nghalonnau pobl Penygroes, gyda’i hanes fel tafarn, ac wedyn fel siop ironmongers am ddegawdau.”

Efallai yn bwysicach, cred haneswyr  i’r  dafarn gael ei defnyddio fel yr orsaf gyntaf yn y byd lle talodd teithwyr i fynd ar y rheilffordd rhwng Penygroes a Chaernarfon ym 1828.

“Rŵan dan ni’n edrych i’r dyfodol,” meddai Sandra Roberts, Cadeirydd Dyffryn Nantlle 2020. “Dan ni eisiau prynu’r adeiladau, ei hadnewyddu, ac agor llety, caffi, busnesau beic ac awyr agored, a chael lle i bobl ifanc ddysgu sgiliau digidol ymarferol, a chael eu hyfforddi mewn lletygarwch, arlwyo a thwristiaeth, i weithio yn y busnesau yn yr ardal.”

Mae gwefannau ariannu’n torfol (crowdfunding) yn rhoi cyfle i bobl ar draws Gymru a thu hwnt i gyfrannu at freuddwyd y gymuned, ac yn achos Siop Griffiths, i fuddsoddi mewn cydweithfa budd cymunedol.

“Dan ni wedi cael cefnogaeth i helpu i symud ymlaen gyda’r prosiect gan Sefydlaid Plunkett (sydd wedi helpu llawer o gydweithfeydd ym Mhrydain) a Chanolfan Gydweithredol Cymru,” meddai Ben. "Mae Dyffryn Nantlle 2020 wedi dechrau siarad ag asiantaethau ac arianwyr hefyd, i drafod o lle daw’r arian i adnewyddu’r adeilad wedi ei brynu."

Aeth y prosiect yn ‘fyw’ ar Crowdfunder am 6yb, Dydd Llun, Hydref 19, am 28 diwrnod – www.crowdfunder.co.uk/siop-griffiths

Rhannu |