Mwy o Newyddion
Cynnig brechiad am ddim i blant 2-6 oed
Mae swyddogion iechyd yng Nghymru yn annog rhieni plant dwy i chwech oed i drefnu fod eu plant yn cael eu brechu rhag ffliw dros y gaeaf, i’w diogelu yn erbyn y salwch hwn sy’n gallu cael effeithiau difrifol.
Er bod rhai rhieni yn credu nad yw ffliw yn cael effaith ddifrifol ar blant, mae ffigyrau a gasglwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, y derbyniwyd plant yn ogystal ag oedolion i ysbytai ac unedau gofal dwys gyda ffliw
Mae’r rhaglen imiwneiddio rhag ffliw mewn plentyndod yn cynnig brechlyn chwistrell trwyn syml i helpu diogelu plant ifanc, ac mae fwyaf effeithiol os yw’n cael ei roi cyn i’r salwch daro. Ar gyfer plant 2 a 3 oed rhoddir y brechlyn yn eu meddygfa leol, ond i blant mewn dosbarthiadau derbyn ac ym mlynyddoedd ysgol 1 a 2 fe’i rhoddir gan weithwyr iechyd proffesiynol yn eu hysgol.
Bydd rhaid i’r ysgol gael caniatâd rhieni cyn rhoi’r brechlyn i unrhyw blentyn.
Mae Dr Zed Sibanda, Paediatregydd Ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn esbonio pam mae’r brechiad yn bwysig: “Mae plant mor ifanc â hyn yn wynebu risg arbennig o ddatblygu cymhlethdodau difrifol oherwydd ffliw am nifer o resymau. Un o’r rhesymau hynny yw nad yw eu systemau imiwnedd wedi datblygu’n llawn, sy’n golygu na allant drechu’r ffliw cystal â phlant hŷn ac oedolion.
“Mae ffliw yn lledu’n hawdd mewn teuluoedd a hefyd, oherwydd natur grwpiau chwarae ac amgylchedd ysgolion, mae plant a phlant bach yn arbennig yn aml yn treulio’u hamser yn agos iawn at ei gilydd, sy’n golygu eu bod mewn perygl mawr o ddal unrhyw germau sy’n cylchredeg. Gall brechu helpu atal ffliw rhag lledu trwy ddiogelu unigolion a chreu imiwnedd ‘gyr’.”
I’r rhan fwyaf o blant iach, mae ffliw fel arfer yn golygu sawl diwrnod diflas gartref yn y gwely. Fodd bynnag, dylai rhieni ddeall fod ffliw weithiau’n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig felly i blant ifanc iawn a’r rhai a chanddynt broblemau iechyd hirdymor, fel asthma cymhedrol neu ddifrifol, ac iddyn nhw mae’n gallu bygwth eu bywydau hyd yn oed.
Fel mae Dr Sibanda yn esbonio: “Nid yw pobl ifanc yn gallu deall a chyfathrebu os ydynt yn dechrau dioddef symptomau tebyg i ffliw – sy’n golygu efallai na cheir diagnosis o ffliw tan yn gymharol hwyr o gymharu ag oedolyn .
“Golyga hyn fod y plentyn yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau oherwydd ffliw. Ond gellir atal hyn oll gyda brechlyn chwistrell trwyn syml.”
Mae Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn adleisio galwad Dr Sibanda: “I’r rhan fwyaf o blant rhoddir y brechiad trwy chwistrell trwyn, sy’n golygu nad oes unrhyw bigiadau. Mae’n gyflym, diogel, syml ac yn gwbl ddi-boen.
“Hyd yn oed os yw trwyn plentyn yn dechrau rhedeg neu’n tisian yn syth ar ôl y chwistrell, byddant yn dal i gael eu diogelu.”
Dyma’r flwyddyn gyntaf y cynhwyswyd plant pump a chwech oed yn ymgyrch brechiad ffliw tymhorol y GIG. Cynigiwyd y brechlyn i blant dwy a thair oed am y tro cyntaf ddwy flynedd yn ôl, ac ychwanegwyd plant pedair oed y llynedd.
Mae hyn ar ben grwpiau cymwys eraill fel pobl 65 a throsodd, pobl mewn grwpiau ‘risg’ o chwe mis oed a chanddynt gyflyrau iechyd hirdymor, a phob menyw feichiog. Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cael eu hannog i gael y brechiad i’w diogelu nhw a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.
Bob blwyddyn gall y firysau ffliw sy’n cylchredeg newid, sy’n golygu fod brechlynnau hefyd yn cael eu newid i ymateb i hynny. Caiff firws y ffliw ei wasgaru trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint. Gall ledu’n gyflym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeëdig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.
Mae’r rhaglen imiwneiddio ffliw flynyddol yn ceisio sicrhau bod y bobl sydd ei hangen fwyaf yn cael gwarchodaeth rad ac am ddim bob blwyddyn yn erbyn ffliw. Y rheswm am hynny yw diogelu unigolion bregus a’r sawl sy’n wynebu’r risg mwyaf o gael cymhlethdodau difrifol o ffliw.