Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Hydref 2015

Gardd Bodnant yn cyrraedd carreg filltir – 200,000 o ymwelwyr

Ni all 200,000 o ymwelwyr fod yn anghywir! Mae Gardd Bodnant, sy'n un o hoff drysorau Cymreig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac un o'r mwyaf poblogaidd, ar fin gweld y nifer mwyaf erioed o bobl yn camu drwy ei gatiau haearn gyr enwog.

Wrth i'r ardd ger Conwy ffrwydro â lliwiau'r hydref, mae'r tîm yn barod i groesawu ei 200,000fed ymwelydd blynyddol, am y tro cyntaf yn ei hanes 140 mlynedd – a misoedd o flaen y targed.

Bydd pawb yn gwylio'r ganolfan dderbyn yn y diwrnodau nesaf wrth i'r staff a'r gwirfoddolwyr baratoi i gyfarch y gwestai arbennig hwn gyda siampên, teisen a chroeso brwd.

Meddai Rheolwr Meddiant Gardd Bodnant, William Greenwood: “Feddylion ni fyth y byddai hyn yn digwydd eleni; rhyw ddiwrnod mae'n siŵr, ond dim eto!

“Rydym bob un yn cyffroi o weld bod cymaint o'n hymwelwyr mor hoff o ddod yma fel y byddwn yn croesawu'r 200,000fed yn fuan iawn. Mae'n ganmoliaeth anhygoel i'n holl staff a'n gwirfoddolwyr a'r ymroddiad a ddangosant wrth helpu i wneud hon yn un o erddi mawr ein hoes.”

Sefydlwyd Gardd Bodnant ym 1874 gan y cemegydd diwydiannol a'r entrepreneur Fictoraidd, Henry Pochin. Ers hynny mae wedi cael ei datblygu gan bum cenhedlaeth o'i deulu, ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1949.

Mae'r ardd wedi denu 180,000 o ymwelwyr y flwyddyn am nifer o flynyddoedd – gan groesawu 50,000 yn rheolaidd ym mis Mai yn unig wrth i bobl heidio i weld y Bwa Tresi Aur enwog, sef rhodfa pergola hynaf a hiraf y DU. Mae'r niferoedd ymwelwyr wedi bod yn cynyddu fesul tipyn ers 2013 wrth i rannau newydd gael eu hagor – yr Ardd Gaeaf, dôl Yr Hen Barc, Y Glyn Ywen a'r ardd ger y llyn, Y Pen Pellaf.

Meddai William Greenwood: “Mae Bodnant wedi bod yn ardd fendigedig, yn drysor garddwriaethol erioed, ond nawr mae gennym gymaint yn fwy i'w gynnig i'r ymwelwyr: ar agor drwy'r flwyddyn, mannau newydd i'w harchwilio, a rhaglen ddigwyddiadau gynyddol sydd at ddant pawb, boed teuluoedd ar eu gwyliau, cerddwyr cŵn penwythnos, a hoffwyr gerddi o ddifrif.

“Rydym yn gweld ymwelwyr newydd yn cyrraedd – yn rhai lleol ac o bellach i ffwrdd – ac yn dod nôl dro ar ôl tro ar wahanol adegau o'r flwyddyn. Ein nod yw adeiladu ar y teyrngarwch hwn yn y blynyddoedd i ddod, gyda mwy o lecynnau newydd a phrosiectau gardd yn yr arfaeth."

Meddai Michael McLaren, cyfarwyddwr yr ardd a disgynnydd i'r teulu rhoddwr: “Rwyf wrth fy modd o glywed y bydd Bodnant yn croesawu ei 200,000fed ymwelydd y mis hwn – y tro cyntaf erioed i ni gael mwy na 200,000 o ymwelwyr mewn blwyddyn.

“Roedd fy nhad-cu, Henry, 2il Ardalydd Aberconwy, a roddodd yr ardd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1949 ac a oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ardd, wrth ei fodd yn gweld ymwelwyr yn gwerthfawrogi harddwch yr ardd ac yn dysgu am arddwriaeth a dylunio gerddi.

“Byddai yntau hefyd wedi ei wefreiddio o weld y record hon yn cael ei thorri…a gyda'r disgwyliad o gyrraedd cerrig milltir eraill hefyd cyn diwedd y flwyddyn.

“Diolch yn fawr iawn ar fy rhan innau a'r teulu rhoddwr cyfan i'r staff a'r gwirfoddolwyr sydd wedi hwyluso'r llwyddiant ardderchog hwn, ac yn arbennig i'r garddwyr am sicrhau bod yr ardd yn edrych yn well nag erioed.”

Rhannu |