Mwy o Newyddion
Cyfnod ymgeisio Cynllun Adfer Coetir Glastir yn ailagor
Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi bod ail gyfnod Datgan Diddordeb cynllun Adfer Coetir Glastir yn agor ar 19 Hydref ac yn cau ganol nos 13 Tachwedd 2015. Mae cynllun Adfer Coetir Glastir yn cynnig arian ar gyfer ailblannu coetir sydd dan fygythiad oherwydd clefyd ramorwm y llarwydd.
Agorwyd cyfnod ymgeisio cyntaf y cynllun Adfer Coetir yn yr haf, ac mae 40 o Ddatganiadau o Ddiddordeb eisoes wedi dod i law. Nod y cynllun yw helpu perchenogion coedwigoedd i reoli eu coetiroedd yn gynaliadwy ac i gryfhau’r coetiroedd sydd wedi’u taro gan y clefyd Phytophthora ramorum. Mae’r cyfnod Datgan Diddordeb hwn yn targedu ardaloedd y gellir eu hailblannu erbyn 31 Mawrth 2016.
Meddai Rebecca Evans: “Gallaf gadarnhau ein bod am gynnal cyfnod datgan diddordeb byr arall ar gyfer cynllun Adfer Coetir Glastir er mwyn ailblannu coetiroedd erbyn 31 Mawrth.
“Er bod P ramorum yn dal i gael effaith andwyol ar goed llarwydd yng Nghymru, mae strategaeth rheoli clefydau Llywodraeth Cymru â’i phwyslais ar dorri coed heintiedig sy’n tyfu ar ymylon coetir heintiedig wedi arafu lledaeniad y clefyd yn fawr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dros 600 o Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol ar gyfer 9,100 o hectarau (neu 37% o’r holl dir o dan goed llarwydd).
“Wrth ailblannu coetir llarwydd, mae’n bwysig iawn ein bod yn plannu’r goeden iawn yn y lle iawn am y rheswm iawn, er mwyn cryfhau’r coetir i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd a chlefydau yn y dyfodol. Dyma pam rydym yn gofyn i berchenogion coetiroedd sy’n gwneud cais i baratoi cynllun rheoli ar gyfer y coetir. Bydd Cynllunydd Coetir â chymwysterau proffesiynol yn eu helpu i baratoi’r cynllun a fydd yn gyson â Safon Goedwigaeth y DU, sef y safon ar gyfer rheoli coetiroedd yn gynaliadwy.
“Mae’n dda dweud bod y cyrff proffesiynol wedi croesawu’n cynlluniau coetiroedd a hoffwn ddiolch iddyn nhw am ein helpu i fodloni’r safonau uchel.
“Rhaid Datganiad Diddordeb yng nghynllun Adfer Coetir Glastir trwy RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi’ch cofrestru gydag RPW Ar-lein ac os nad oes gennych god defnyddio, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 cyn gynted ag y medrwch.”