Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Hydref 2015

Cwmni cynnyrch harddwch cyn fodel rhynglwadol yn y BAFTAs

Georgina Jones, sy’n Osteopath, rhiant a chyn – fodel Rhyngwladol, yw sylfaenydd Bathing Beauty, cwmni sydd wedi ennill sawl gwobr am eu cynnyrch naturiol i ofalu am y croen. Mae’r cwmni wedi ei sefydlu mewn hen stabl Fictorianaidd yng ngodre Bryniau Clwyd. Dewiswyd cynnyrch Bathing Beauty yn ddiweddar fel rhodd i wobrwyo’r Actor Gwrywaidd a Benywaidd Gorau yn Seremoniau BAFTA yng Nghaerdydd.

Menter wledig yw Bathing Beauty sydd wedi ei sefydlu yng nghefn gwlad Cymru ond sydd â gweledigaeth a bwriad o gael llwyddiant byd-eang. Nid yw llwyddiant byd-eang yn rhywbeth newydd i George, tra’r oedd hi ar ei blwyddyn allan ar ôl ysgol yn 1989, bu’n llwyddiannus mewn cystadleuaeth ar raglen y BBC y “Clothes Show” gan arwain at yrfa yn Llundain gyda Models One.

Ei swydd gyntaf oedd bod yn ‘wyneb y 90au’ ar gyfer Cylchgrawn “Company.”

‘’Roedd hyn yn drobwynt.’’ meddai George: ‘’Ymhen dim roeddwn wedi cael fy ail leoli yn Milan ac yna ym Mharis, yn ran o ymgyrch Burberry, Emporio ArmaniI a De Beers Diamonds, dim ond i enwi ychydig. Yn ystod y cyfnod yma, cefais yr anrhydedd i weithio gyda rhai o ffotograffwyr, dylunwyr ac arlunwyr gwallt a cholur gorau’r byd. O ganlyniad roeddwn yn defnyddio llwyth o golur.”

Gwaith ‘harddwch’ oedd y rhan fwyaf o’i gwaith felly roedd hi’n hanfodol bod ei chroen mewn cyflwr arbennig bob amser. Roedd y lluniau agos o’i hwyneb yn cael ei gwneud cyn adeg ‘photoshop’ ac ‘airbrush’, felly doedd dim posib cuddio dim.

“Roedd disgwyl i chi fod yn berffaith. Mae cynnyrch naturiol bob amser wedi mynd a fy mryd; rhai heb unrhyw gemegau nag arogl synthetic. Tra’r oeddwn i dramor, roeddwn yn gwneud fy nghynnyrch harddwch fy hun. Mae’r ffaith fod actorion arbennig yn y BAFTA’s yn derbyn fy rhoddion yn cau pen y llinyn i mi mewn ffordd; mae fy nghreadigaethau wedi cael eu rhoi i’r sêr sydd wedi cael eu gwobrwyo am eu talent a’u harddwch!”

Mae cynnyrch Bathing Beauty yn cael eu datblygu a’u gwneud yn fewnol yn Y Source, Llangynhafal; lle maen nhw’n tyfu cynnyrch megis perlysiau a blodau dan amodau organic, maen nhw hefyd yn defnyddio cynhwysion wedi’u cynaeafu’n wyllt a dan amodau masnach deg. Mae’r cynnyrch yn cael eu creu gan George. Arbenigedd y cwmni yw’r sector Alergedd neu'n “Rhydd o”, gan fod George wedi creu'r rhain yn wreiddiol ar gyfer ei phlant (sydd bellach yn 13,12 ac 11) a oedd yn dioddef o groen sensitif.

“Yn amlwg mae diet a ffordd o fyw yn chwarae rhan fawr, ond hefyd mae beth yr ydych yn rhoi ar eich croen yn bwysig. Dyma organ fwyaf eich corff, a gall amsugno hyd at 60% o’r cynnyrch yr ydych yn ei roi arno."

Bellach mae hi wedi datblygu 30 cynnyrch sebon pur a naturiol, gyda 20 arall ar y gweill. Mae hyn yn cynnwys cynnyrch i famau a phlant, siampŵ a sebon cawod. Mae hi wedi dysgu ei hun, drwy ymchwilio’n drylwyr i mewn i holl agweddau o lysieuaeth feddygol, aromatherapi a homeopathi, ac mae ei gradd mewn osteopathy yn ei helpu hi gyda’i gwybodaeth o’r anatomi. Hyd yn hyn, mae Bathing Beauty wedi ennill 10 Gwobr Gofal Croen, 2 Wobr Rhestr Fer Harddwch ac 1 Gwobr Iechyd a Harddwch Rhyngwladol. Yn ogystal ag “Guru” Gwallt a Harddwch Cymru 2015.

O ganlyniad i gymorth Prosiect Cywain, Menter a Busnes, roedd y cwmni yn gallu mynychu digwyddiad masnachu yn Llundain sef Cynnyrch Naturiol ac Organic Ewrop, ac o ganlyniad llwyddodd i ennill 6 cwsmer mawr newydd gan gynnwys 1 yn Y Swistir ac 1 yn Sweden. Bellach mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r Alban wedi dechrau gwerthu’r cynnyrch.

“Mae’n wych cael gweithio gyda chwmni gwledig lleol sydd gyda’r potensial i greu effaith byd-eang” meddai Nia Môn, Rheolwr Datblygu ar gyfer Cywain, “maent wedi creu 4 swydd yn barod, ac mae ganddynt y sgôp i dyfu gan eu bod yn defnyddio cynnyrch lleol wedi ei dyfu’n naturiol ac yn ychwanegu gwerth ato. Mae gweledigaeth George a’i brwdfrydedd yn rhagorol ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi."

Ar Ddydd Sul 27ain o Fedi, cynhaliwyd seremoni gwobrwyo, Yr Academi Brydeinig o Gelfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, BAFTA Cymru, yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Dewiswyd pecynnau newydd Bathing Beauty fel rhoddion i’r Bafta. Ar gyfer yr Actores Orau - brwshus colur fegan mewn cydweithrediad â Caroline James, artist colur Katie Mellua, ac ar gyfer yr Actor Gorau - y cit ymdwtio - “toriad glân” a “Barfog”.

“Dwi wrth fy modd, mae’r rhain yn becynnau rhoddion newydd sydd wedi eu darlunio gan fy ngŵr a’u cynllunio gan ddyluniwr graffeg o Ruthun, Peapod, felly mae popeth yn cael ei wneud o fewn ein milltir sgwâr. Gan fy mod yn credu fod bob un ohonom angen edrych ar ôl y Ddaear, mae’r pecynnau unai yn un y gellir ei ail ddefnyddio, neu ei ailgylchu.

"Nid oedd gennym syniad pwy fyddai’n ennill - ond roeddem yn ymwybodol fod gan o leiaf un ohonynt farf!"

Rhannu |