Mwy o Newyddion

RSS Icon
15 Hydref 2015

Galwad i wneud Cymru yn genedl Cyflog Byw

Heddiw mae Oxfam Cymru yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i wneud Cymru yn genedl Cyflog Byw er mwyn lleihau anghydraddoldeb economaidd a thlodi yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae 23% o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol, ac mae 25% o weithwyr yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw (£7.85 yr awr). Tra bod Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru yn gyflogwyr Cyflog Byw yn barod, mae Oxfam Cymru yn credu y dylai Llywodraeth newydd Cymru fynd gam ymhellach a gwneud Cymru yn genedl Cyflog Byw.

Gallai wneud hyn trwy sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gyflogwyr Cyflog Byw a gan ddefnyddio arfau eraill, megis caffael a chyllid grant, i annog cyflogwyr yng Nghymru i ddarparu gwaith digonol ac i dalu’r Cyflog Byw.

Daw’r alwad heddiw wrth i fws Unioni’r Glorian Oxfam gyrraedd Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o dlodi ac anghydraddoldeb ar draws y byd. Mae’r bws, sydd ar daith ar hyd y DU, yn symbol o’r ymgyrch, gan y gallai 80 person cyfoethocaf y byd eistedd ar y bws deulawr. Yn gynharach eleni roedd Oxfam wedi argoeli y byddai un y cant cyfoethocaf y byd yn berchen ar fwy o gyfoeth na’r gweddill ohonom erbyn 2016, ond mae adroddiad cyfoeth y Credit Suisse Wealth Report, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, wedi cadarnhau bod hynny eisoes yn wir.

Meddai Carys Thomas, Pennaeth Oxfam Cymru: “Yma yng Nghymru mae cyflogau isel yn broblem; tra bod incwm y bobl gyfoethocaf wedi parhau i godi, dros y ddeng mlynedd diwethaf mae cyfraddau cyflog y mwyafrif o bobl wedi aros yn isel.          

“Ry’n ni’n credu bod angen lleihau anghydraddoldeb er mwyn lleihau tlodi, ac un ffordd o wneud hyn yw sicrhau bod pobl yn ennill digon o arian er mwyn gallu chwarae rhan lawn mewn cymdeithas. Rydym ni am i Lywodraeth newydd Cymru fynd gam ymhellach a gwneud Cymru yn genedl Cyflog Byw.

 “Mae angen i ni gau’r bwlch rhwng y bobl gyfoethog a’r gweddill. Mae angen unioni’r glorian - a hynny ar frys.”

Bydd bws Unioni’r Glorian Oxfam Cymru ar Stryd Eglwys Fair rhwng 10am a 7pm, ble bydd staff a gwirfoddolwyr yn gofyn i bobl Caerdydd os hoffent nhw weld Llywodraeth newydd Cymru yn gwneud Cymru yn genedl Cyflog Byw.

Daw galwad Oxfam Cymru i wneud Cymru yn genedl Cyflog byw yn rhan o ddogfen ‘Glaslun i Gymru’ Oxfam Cymru a gaiff ei gyhoeddi yn fuan, ac a fydd yn cynnwys awgrymiadau polisi ar faterion yng Nghymru a’r byd.

Llun: Carys Thomas

Rhannu |