Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Hydref 2015

Canlyniadau DNA yn cadarnhau bod Ken Owens yn 'Gymro i'r carn'

Roedd darganfod fod canlyniadau ei brawf DNA hynafiadol wedi dangos ei fod yn 'Gymro i'r carn' yn newyddion arbennig o dda i fachwr tîm rygbi Cymru Ken Owens.

Gyda'i wreiddiau yn ddwfn yn Sir Gâr, doedd hi ddim yn syndod efallai bod y chwaraewr sydd yn sgwad Warren Gatland yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015 yn dod o linach Gymreig.

Datgelwyd y canlyniadau i Ken, sy'n dod o Gaerfyrddin ac yn chwarae fel bachwr i'r Scarlets, wrth i gwmni teledu Green Bay ffilmio ar gyfer y gyfres DNA Cymru fydd yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Tachwedd. Mae'r gyfres yn rhan o'r prosiect CymruDNAWales.    

Roedd clywed bod marciau genynnol llinach ei fam yn ogystal â llinach ei dad yn fwy cyffredin yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain yn plesio Ken.

"Fel Cymro i'r carn mae'n neis cael gwybod bod rhan fwyaf o'r teulu, yn mynd nôl dros y canrifoedd, o Gymru ac wedi tarddu o fan hyn," meddai. "Mae hanes yn rhywbeth sy'n fy niddori'n fawr iawn; falle bydd e'n rhywbeth bydda i'n edrych mewn iddo yn fwy."

Ar ochr ei dad, mae Ken yn perthyn i'r haplogrŵp R1b-S145, sy'n fwyaf cyffredin yng Nghymru o gymharu â gweddill Prydain. Mae gwyddonwyr yn credu bod yr haplogrŵp yma wedi dod i Gymru gyda symudiad pobl y Biceri, gweithwyr metel cynnar, tua 2000CC. Mae R1b-S145 yn rhan o’r grŵp ehangach R1b a ddaeth i Ewrop o Orllewin Asia tua diwedd cyfnod y Neolithig.

Ar ochr ei fam, mae DNA Ken yn dangos ei fod yn perthyn i'r haplogrŵp H1 yn gyffredin ar draws Ewrop ac efallai wedi bod yn bresennol yn y bobl ddaeth o hyd i lochesi yng Ngorllewin Ewrop yn ystod Oes yr Iâ diwethaf. Mae ei is-haplogrŵp H1c1 yn fwyaf cyffredin yng Nghymru o gymharu â gweddill Prydain a hefyd yng ngwledydd Gogledd Ewrop megis Yr Almaen, Denmarc a’r Iseldiroedd. 

Yn y gyfres DNA Cymru bydd y cyflwynwyr Beti George, Dr Anwen Jones a Jason Mohammad yn egluro sut mae gwyddoniaeth DNA yn gallu datgelu glasbrint genetig yn ymestyn nôl tu hwnt i hanes cofnodedig. Nod y prosiect yw cynnal yr arolwg mwyaf o'r DNA hynafiadol sy'n bresennol ym mhoblogaeth Cymru drwy brawf poer. Bydd y gyfres yn defnyddio DNA hynafiadol i geisio ateb cwestiynau hanesyddol fel 'Pwy ydy'r Cymry?' ac 'O ble ydym ni'n dod?' drwy ddefnyddio samplau DNA gan bobl Cymru heddiw.

Meddai John Geraint o Green Bay Media, golygydd y gyfres, "Mae hon yn stori epig am daith pobl drwy hanes. Yn y gyfres, byddwn yn datgelu gwybodaeth am achau genetig eiconau Cymreig go iawn fel Ken Owens wrth ddilyn stori ryfeddol y Cymry, pwy ydym ni ac o ble y daethom."

Mae'r prosiect CymruDNAWales yn bartneriaeth rhwng S4C, CymruDNAWales, Trinity Mirror a'r cwmni cynhyrchu Green Bay Media. Bydd y gyfres DNA Cymru yn cael ei darlledu ar S4C o nos Sul 22 Tachwedd am 8.00 o'r gloch.

Mae gwasanaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2015 ar S4C yn cynnwys naw gêm fyw, gan ddilyn holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth. A beth bynnag fydd tynged Cymru yn ystod y gystadleuaeth, bydd S4C yn darlledu'n fyw un gêm o rownd yr wyth olaf, un gêm o'r rownd gynderfynol, y gêm efydd a'r ffeinal.

Am fwy o fanylion am y prosiect CymruDNAWales,  ewch i safle'r gyfres yma

Rhannu |