Mwy o Newyddion
Diolch i Gynghorydd Plaid Cymru am ei waith
Dangosodd Cynghorwyr Grwp Plaid Cymru Gwynedd eu diolchgarwch i un o'r cynghorwyr sydd wedi gweithio hiraf yng Ngwynedd yn ystod eu cyfarfod grŵp yr wythnos ddiwethaf yng Nghaernarfon.
Ymddeolodd Y Cynghorydd o Fangor Edward Thomas Dogan sy'n cynrychioli Ward Dewi ar Gyngor Gwynedd o'i swydd oherwydd salwch. Cyfarfod o'r cyngor llawn yr wythnos ddiwethaf (Dydd Iau 8 Hydref) yng Nghaernarfon oedd y cyfarfod cyngor cyntaf ers penderfyniad y Cynghorydd Dogan i gamu i lawr.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Dyfed Edwards: "Mae’r grŵp yn awyddus i gydnabod y gwaith hir a wnaeth Eddie Dogan mewn rôl gyhoeddus dros ei gymuned, dinas Bangor a thrigolion Gwynedd yn gyffredinol. Mae wedi dangos ymroddiad llwyr tuag at greu amgylchedd gwell ar gyfer dinasyddion Bangor i fyw, gweithio a’i fwynhau dros nifer o flynyddoedd.”
Gwasanaethodd Y Cynghorydd Edward Dogan gymuned Coed Mawr gydag angerdd am dros 40 mlynedd. Mae'n cael ei gydnabod yn lleol fel tad Cyngor y Ddinas ac mae wedi gwasanaethu fel Maer Dinas Bangor ar ddau achlysur. Bu hefyd yn cynrychioli’r ardal ar Gyngor Bwrdeistref Arfon cyn ei ddiddymu ac bu’n gynrychiolydd ar Gyngor Gwynedd ers ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996.
Yn 1995 cydnabuwyd ei waith caled a’i benderfyniad diflino i gefnogi a datblygu ei gymuned gan Gyngor y Ddinas wrth iddo dderbyn Rhyddid Dinas Bangor ag anrhydedd.
Bu’n aelod ymroddedig a gweithgar o'r Eglwys Gatholig yn St James ym Mangor, a chydnabuwyd ei waith gyda’r eglwys yn ogystal â’i gymuned yn 2004 pan enillodd y fedal Benemerenti gyda dyfyniad gan y Pab, John Paul II.
Yn ôl ei gyd-Gynghorydd ym Mangor, John Wynn Jones: "Fel cyw Gynghorydd heb fawr o ymwybyddiaeth o drefn y Cyngor yn 1995, roeddwn yn ddiolchgar o’r arweiniad y bu’r Cynghorydd Dogan mor barod i’w rannu â mi. Mae ei werthoedd a’i ymroddiad i feithrin y gwerthoedd hynny mewn eraill, yn rhinwedd dwi’n ei pharchu ac yn gobeithio y gallaf ei efelychu fy hun.
"Mae record ei deyrngarwch a’i bresenoldeb mewn cyfarfodydd a digwyddiadau Cyngor Sir a Dinas heb ei ail, ac yn wers i bob un ohonom gaiff yr anrhydedd o gynrychioli pobl leol ledled Cymru heddiw," ychwanegodd y Cynghorydd Jones.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Mae ei ymrwymiad i ddatblygu popeth sy'n ymwneud â Bangor a hyrwyddo’r ddinas yn ddi-fai. Mae ei agwedd uniongyrchol a’i natur hyderus wedi bod yr un fath pwy bynnag yr oedd yn ymwneud â nhw ym mha le bynnag. Mae'n atgof cyson i holl aelodau'r cyngor o bwrpas y rôl y maent wedi eu hanrhydeddu i’w gweithredu."
Mae’r Cynghorydd Dogan yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Dinas Bangor, lle y bu ar un cyfnod yn un o chwaraewyr y Clwb. Rhannodd ei frwdfrydedd ar gyfer Clwb Dinas Bangor ble bynnag yr ai.
"Bydd colled ar ôl Eddie o fewn siambr y Cyngor, ac fel aelod o Blaid Cymru. Dymunwn y gorau iddo ar gyfer y dyfodol ac rydym yn gweddïo y caiff well iechyd,” ychwanegodd y Cynghorydd Dyfed Edwards.