Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Hydref 2015

Ni fydd Plaid Cymru’n derbyn Mesur gwan i Gymru

Rhybuddiodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, na fydd ei phlaid yn derbyn Bil Cymru wan, nad sydd yn rhoi awdurdodaeth cyfreithiol wahanol i Gymru.

Galwodd Leanne Wood ar y Prif Weinidog i ymuno gyda’i phlaid i wrthwynebu’r mesur, os fydd y mesur, a ddisgwylir i gael ei gyflwyno’r wythnos nesaf, yn profi i fod yn wan.

Dywedodd  Leanne Wood: “Rwy’n sicr y byddwch yn cytuno gyda fi, Brif Weinidog, fod cyflwyno awdurdodaeth gyfreithiol gwahanol yn hanfodol ar gyfer sustem ddatganoli ddichonadwy sydd yn gweithio i’r bobl.

“Rydych chithau a minnau wedi dweud dro ar ôl tro taw Cymru yw’r eithriad ar y mater o fewn yr ynysoedd hyn a beth bynnag yw’r rhesymau hanesyddol, mae aeddfedrwydd democrataiddy wlad yn golygu bod awdurdodaeth erbyn hyn yn hanfodol.

“Ers y dechrau, roedd proses gyfan Dydd Gŵyl Dewi Sant yn ras tuag at y gwaelod.

“Fe ddechreuodd gydag adrannau Whitehall yn cael eu gofyn pa bethau y bydden nhw’n fodlon eu datglanoli, yn hytrach na’r hyn sydd o fudd i bobl y wlad hon.

“Gallwn ddisgwyl Bil gwan nawr fydd yn arwain heb amheuaeth at yr angen am Fil arall bron ar unwaith wedi hynny.

“Os yw cynnal trafodaethau yn profi unwaith eto i fod yn ofer, fyddai eich plaid yn barod i ymuno â fy un i er mwyn trechu’r Bil a cheisio am un newydd ar ôl Etholiad Cyffredinol Cymru’r flwyddyn nesaf, pan fydd Llywodraeth Gymreig newydd yn cael ei hethol ar fandad newydd, ar gyfer cam nesaf datganoli?”

Ychwanegodd Ms Wood: “Mae’r bobl yma’n haeddu fframwaith o ddatganoli er mwyn i’n Llywodraeth allu gweithredu ar faterion sydd yn effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Os cawn ein gadael gyda threfniant cymysg, yna gallwn ddisgwyl mwy o anghydfodau costus rhwng llywodraethau Cymru a’r DG.

“Bydd Bil Cymru wan hefyd yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddai Llywodraeth Doriaidd yn San Steffan – heb unrhyw fandad o Gymru – yn gallu tanseilio llywodraeth Cymru ar nifer helaeth o faterion.

“Beth am sicrhau’r fframwaith mae Cymru’n ei haeddu fel bod gyda ni ddatganoli all weithio dros y bobl.”

Rhannu |