Mwy o Newyddion
Galw am gymorth ar unwaith i ffermwyr cig oen Cymru
Mae Plaid Cymru wedi galw am gymryd camau ar frys er mwyn helpu ailasesu cwota mewnforio cig oen sydd yn dod mewn i’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar Amaeth, Llyr Gruffydd AC, fod y Deyrnas Gyfunol a Chymru’n derbyn cyfran anghymesur o gig oen mewn i’r Undeb Ewropeaidd o Seland Newydd.
Ychwanegodd fod hyn yn digwydd ar gyfnod argyfyngus i nifer o ffermwyr a bod yr angen i edrych unwaith eto ar gwotau mewnforio cyfredol yn fwy pwysig nac erioed.
Dywedodd Mr Gruffydd: “Mae’n argyfwng eisoes ar gynifer o’n ffermwyr defaid yng Nghymru gydag ystod o ffactorau’n cyfrannu at y cyfnod anodd hwn i’r sector. Un ffactor allweddol yw’r lefelau uchel o gig o Seland Newydd sydd yn dod mewn i’r Deyrnas Gyfunol.
“Mewnforiwyd dros 85,000 tunnell o gig defaid i mewn i’r DG y llynedd. Cynrychiolai hyn dros hanner yr holl gig defaid a fewnforiwyd mewn i’r Undeb Ewropeaidd o Seland Newydd.
“Er nad oes neb yn awgrymu y dylid rhoi taw ar fewnforion, cawn ddarlun clir gan yr ystadegau ein bod yn cymryd cyfran anghymesur o gig oen o Seland Newydd.
“Yn amlwg mae hyn yn cael effaith andwyol ar ein marchnad cartref. Daeth yr amser felly i Lywodraeth y DG symbylu trafodaethau ynglŷn â ydyw’r trefniadau cwota cyfredol yn addas a derbyniol.
“Un dewis fyddai i newid y cwota cyfredol o 228,000 tunnell y flwyddyn – lefel o fewnforion yw hwn na chyflawnwyd ers nifer o flynyddoedd – ac mae hynny felly’n awgrymu ei fod yn ormod eisoes.
“Fel arall, gellid ystyried trefniadau amgen er mwyn sicrhau bod y cig oen yn cael ei daenu’n fwy cytbwys ar draws yr UE, gan helpu i fynd i’r afael â’r effaith anghymesur mae lefelau mewnforion mor uchel yn ei gael ar y DG.
“Er bod hwn yn rhywbeth sydd yn rhaid digwydd ar lefel Ewropeaidd, mae’n rhaid i lywodraethau Cymru a’r DG fod yn uchel eu cloch wrth gefnogi mesurau o’r math i’n ffermwyr cig oen. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o dystiolaeth wela i fod hyn yn cael ei wneud.
“Mae Plaid Cymru wedi galw hefyd am gymryd camau ar frys er mwyn cryfhau marchnadoedd domestig drwy well defnydd o gaffael cyhoeddus, gwell cydweithio gyda’n harchfarchnadoedd a gwell defnydd o arian Rhaglenni Datblygu Gwledig.
“Nid yw’r alwad hon am adolygu’r cwota mewnforio yn un a wnawn ar fympwy. Gorfodwyd i ni wneud hyn am fod y sefylla bresennol yn anghynaliadwy.”