Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Hydref 2015

Newidiadau i gasgliadau gwastraff o gartrefi yn Arfon

O 2 Tachwedd 2015 ymlaen, bydd gwastraff domestig na ellir ei ailgylchu - megis polythen, polystyren a lludw sydd dros ben yn y bin gwyrdd neu sachau du - yn cael eu casglu unwaith bob tair wythnos o aelwydydd yn ardal Arfon o Wynedd.

Bydd y newid yn dod ag Arfon i’r un drefn ag ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd, sydd wedi mabwysiadu’r trefniadau newydd yn ddidrafferth.

Ni fydd unrhyw newid i’r casgliadau gwastraff eraill o gartrefi Arfon, felly bydd gwastraff sydd i’w ailgylchu yn parhau i gael ei gasglu o’r bocsys glas a bydd gwastraff bwyd dal i gael ei wagio o’r biniau brown unwaith yr wythnos. Bydd gwastraff o’r ardd yn cael ei gasglu o’r bin olwyn brown bob pythefnos o hyd.

Er mwyn sicrhau fod pobl Arfon yn gwneud y defnydd gorau posib o’r casgliadau ailgylchu wythnosol ac i hwyluso’r newid i’r trefniant newydd, mae’r Cyngor yn dosbarthu Cartgylchu pwrpasol i gartrefi addas yn yr ardal ar hyn o bryd. Tri bocs ailgylchu glas ar olwynion yw’r Cartgylchu sy’n ei gwneud yn haws i bobl ddidoli eu gwastraff ac yn eu hannog a’u helpu i ailgylchu ac ailddefnyddio mwy.

Cyn i’r newid gael ei gyflwyno i gasgliadau gwastraff gweddilliol ardal Arfon, bydd cartrefi sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau yn derbyn pecyn gwybodaeth drwy’r post, fydd yn cynnwys:

-       calendr ailgylchu a chasglu gwastraff newydd;

-       taflen sy’n esbonio pa ddeunyddiau y gellir eu rhoi yn y casgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol yma yng Ngwynedd;

-       llythyr sy’n egluro’r newidiadau yn llawn.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Rydw i’n annog pobl sy’n byw yn Arfon i gadw golwg am y pecyn gwybodaeth ac i’w ddarllen yn ofalus pan mae’n cyrraedd. Mae’n egluro’r newidiadau yn llawn a hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â beth sy’n addas i’w roi yn y bocs glas a pa fwydydd gellir eu rhoi yn y bin brown.

“Rydw i’n ddiolchgar i bobl Dwyfor a Meirionnydd am y ffordd maent wedi cymryd at y trefniadau casglu gwastraff newydd ac yn hyderus y bydd pobl Arfon yr un mor agored iddynt. Rydan ni eisoes yn gweld newid gwirioneddol yn faint o ailgylchu sy’n cael ei gasglu ers cyflwyno’r newidiadau yn Nwyfor a Meirionnydd gyda lleihad yn y gwastraff sy’n cael ei dirlenwi.

“Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar annog pobl i ailgylchu a chompostio cymaint o’u gwastraff ac sy’n bosib fel bod llai a llai o sbwriel yn cael ei gladdu mewn safleoedd tirlenwi. Mae’r Cyngor yn gorfod talu am bob tunnell o wastraff sy’n cael ei anfon i’w dirlenwi ac mewn perygl o orfod talu dirwy os nad ydym yn cwrdd â’n targedau ailgylchu.”

Os oes pobl sy’n byw yn Arfon sy’n ansicr am unrhyw agwedd o’r newidiadau, dylent gysylltu â Desg Gymorth Ailgylchu’r Cyngor gyda’u cwestiynau ar 01766 771000 neu ailgylchu@gwynedd.gov.uk


LLUN: Y Cynghorydd John Wynn Jones gyda Cartgylchu

Rhannu |