Mwy o Newyddion
Campws newydd gwerth £45m yng nghanol y brifddinas yn 'ddatblygiad a fydd yn ysbrydoli'
Mae Prif Weinidog Cymru wedi datgan y bydd campws newydd Coleg Caerdydd a'r Fro yng nghanol y brifddinas yn 'ddatblygiad a fydd yn ysbrydoli'.
Cafodd y safle newydd gwerth £45 miliwn ei agor yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog a'r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis. Cyfrannodd Llywodraeth Cymru werth £20 miliwn o gyllid cyfalaf tuag at y prosiect hwn.
Bydd y datblygiad newydd yn galluogi'r coleg i gynnig capasiti addysgu ychwanegol ar gyfer y pynciau STEM sef gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg y mae galw mawr amdanynt; gwell darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn pynciau galwedigaethol; Graddau Sylfaen Addysg Uwch ynghyd â chyfleusterau ar gyfer y gymuned leol.
Dywedodd Carwyn Jones: “Dyma ddyfodol addysg bellach yng Nghymru.
"Bydd y campws newydd hwn yng nghanol y brifddinas yn ddatblygiad a fydd yn ysbrydoli. Bydd yn galluogi dysgwyr i fanteisio ar gwricwlwm hyblyg ac eang ei gwmpas mewn amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf.
"Dyma goleg a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod ei ddysgwyr yn llwyddo. Rwy'n hyderus y bydd yn parhau i ysbrydoli dysgwyr am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: "Dyma enghraifft arall o'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cadw at ei haddewidion, gan fuddsoddi mewn cyfleusterau addysg rhagorol ar gyfer ein dysgwyr.
"Mae'r campws newydd hwn yn enghraifft wych o'r modd y mae'r llywodraeth wedi cydweithio mewn partneriaeth â choleg er mwyn cyflawni prosiect o'r radd flaenaf.
"Dyma goleg modern a fydd yn llawn bwrlwm. Gyda chymorth gwerth £20 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd yn creu amgylchedd dysgu priodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Bydd yn ysbrydoli ei fyfyrwyr ac o fudd i'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod."
Dywedodd Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro, Mike James: "Pleser yw croesawu'r Prif Weinidog Carwyn Jones a'r Gweinidog Addysg Huw Lewis i'n campws newydd yng nghanol y ddinas. Ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni ddatblygu'r cyfleuster hwn sydd o'r radd flaenaf heb gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn ddiolchgar iawn.
“Ein huchelgais yw cefnogi'r gwaith o gyflenwi addysg a sgiliau sy'n briodol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar draws Caerdydd a'r rhanbarthau. Gall Coleg Caerdydd a'r Fro chwarae rhan ganolog yn y gwaith o hybu'r datblygiad economaidd sy'n galluogi'r de-ddwyrain i fynd o nerth i nerth, gan greu ffyniant o fewn cymunedau ynghyd â chyfleoedd busnes.
"Bydd y campws newydd hwn, ynghyd â'n twf parhaus ar draws Caerdydd a'r Fro, yn ein helpu i drawsnewid addysg a hyfforddiant ar draws y rhanbarth a sicrhau'r ddarpariaeth orau i bawb mewn amgylchedd a fydd yn ysbrydoli."