Mwy o Newyddion
Lansio Academi Feddalwedd gyntaf y Deyrnas Unedig
Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, yng Nghasnewydd heddiw i agor Academi Feddalwedd gyntaf y DU yn swyddogol ac i groesawu carfan newydd o israddedigion yn dilyn llwyddiant y cwrs peilot a gynhaliwyd yn gynharach eleni.
Sefydlwyd yr Academi Feddalwedd Genedlaethol mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, nod yr Academi Feddalwedd Genedlaethol yw mynd i’r afael â’r prinder cyfredol o israddedigion â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yng Nghymru.
Caiff y cwrs gradd tair blynedd mewn peirianneg feddalwedd gymhwysol ei redeg ar y cyd â Sefydliad Alacrity yng Nghasnewydd. Cafodd ei sefydlu i hyfforddi ac addysgu’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr meddalwedd dawnus yng Nghymru. Caiff y cwrs ei gynnal yn Platfform, sef cartref cwmni arloesi digidol Llywodraeth Cymru yng Nghasnewydd.
Yn adroddiad Technology Insights Wales 2012, nodwyd bod angen recriwtio 3,100 o weithwyr TG newydd bob blwyddyn, dim ond er mwyn ateb y galw presennol. Ar hyn o bryd, does dim digon o fyfyrwyr graddedig yn y maes ateb y galw hwnnw. Ond nid Cymru yw’r unig wlad sy’n wynebu diffyg sgiliau yn y maes TG. Yn UDA, er enghraifft, byddai angen 125,000 o raddedigion peirianneg meddalwedd cymwys i ateb y galw blynyddol, ond dim ond 45,000 sy’n dod allan o’r prifysgolion.
Yn ogystal â thraddodi’r brif araith yn y digwyddiad lansio, bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, yn cwrdd â myfyrwyr a staff yn yr Academi i groesawu’r israddedigion newydd ac i glywed am rai o brofiadau’r myfyrwyr a gymerodd ran yn y prosiect peilot.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn hollbwysig i economi Cymru ac mae’r rhaglen hyfforddiant hon yn cyd-fynd yn llwyr â’n gweledigaeth ni ar gyfer denu a meithrin gallu yn y maes.
“Rydyn ni’n llywodraeth sydd o blaid byd busnes ac wedi ymrwymo i gydweithio â’r sector er mwyn canfod atebion ymarferol i anghenion economaidd Cymru. Rwy’n falch dros ben ein bod yn lansio’r Academi Feddalwedd Genedlaethol oherwydd bydd yn sicrhau bod ein graddedigion sy’n ymuno â’r proffesiwn arbenigol hwn yn meddu ar y sgiliau a’r hyfforddiant cywir i gael y dechrau gorau posibl ar eu gyrfa.”
Dywedodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-ganghellor Coleg Gwyddorau Ffisegol Pheirianneg, Prifysgol Caerdydd: “Pan rydyn ni’n siarad â’n partneriaid ni ym myd busnes a diwydiant, maen nhw’n dweud bod angen i fwy o raddedigion adael y Brifysgol gyda’r sgiliau cywir ar gyfer gweithle’r 21ain ganrif. Maen nhw angen graddedigion sydd â mwy o brofiad o wneud ’y gwaith go iawn’, sydd wedi bod yn rhyngweithio gyda busnesau drwy gydol eu hastudiaethau.
“Bydd yr Academi Feddalwedd Genedlaethol yn mynd i’r afael â’r materion hyn gan gynnig profiad addysgol arbennig i’n myfyrwyr ni er mwyn iddynt sefyll allan yn y dorf. Ar ôl graddio, bydd y myfyrwyr yn arweinwyr yn eu maes ac yn ddeniadol iawn i gyflogwyr. Bydd ganddyn nhw’r fantais alwedigaethol sydd ei hangen yn y gweithle heddiw.”
Dywedodd yr Athro Simon Gibson, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Sefydliad Alacrity: “Rwy’n credu mai agor y cyfleuster addysg uwch hwn yw un o’r camau mwyaf arloesol yn y maes polisi cyhoeddus economaidd ac addysgol yng Nghymru ers tro byd. Dylai ddod â manteision hirdymor oddi mewn i Gymru a thu hwnt hefyd. Dyma fodel unigryw yn y Deyrnas Unedig o ran datblygu’r gweithlu, a fydd yn helpu’r diwydiant i gynnal ei gapsiti i gyflogi gweithwyr a chreu cyfoeth drwy gydol yr unfed ganrif ar hugain.”
Bydd myfyrwyr yr Academi Feddalwedd Genedlaethol yn gweithio ar brosiectau yn y byd gwaith go iawn drwy gydol eu cyfnod astudio. Bydd peirianwyr meddalwedd profiadol y diwydiant yn eu mentora.
Drwy daclo prosiectau masnachol go iawn, bydd y myfyrwyr yn cael profiad uniongyrchol o dechnoleg flaenllaw ac yn gallu meithrin y sgiliau sydd eu hangen a’r profiad o’r byd gwaith go iawn, y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Bydd dulliau addysgu’r Academi Feddalwedd Genedlaethol yn creu awyrgylch tebyg i weithle go iawn gyda phwyslais ar weithio mewn grwpiau bach a dilyn arferion gweithio’r diwydiant.