Mwy o Newyddion
Myfyrwraig ar drywydd cathod creulon
Wedi’i hysbrydoli gan gyfres dditectif Y Gwyll mae Henriette Wisnes, myfyrwraig Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ymchwilio i pam y mae cathod yn lladd cymaint o anifeiliaid eraill.
Anifeiliaid anwes patholegol neu gathod wedi eu camddeall?
Credir fod miliynau o anifeiliaid yn cael eu ‘dileu’ gan ein bwndeli bach gwerthfawr o lawenydd bob blwyddyn. Ond a yw bwydlen ein cyfeillion blewog yr un ar draws y wlad? Neu a oes yn well ganddynt gynnyrch lleol? Ac a yw cathod rhai gwledydd yn ffyrnicach nac eraill?
Gan ddefnyddio ffurflen ar-lein syml gofynnir i’r cyhoedd ddatgelu cyfrinachau bwyta eu cathod. Eisoes mae mwy na 250 o gyfranogwyr o’r DG a chyfandir Ewrop wedi ymateb.
Mae Henriette, sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i sut y gall greddf hela naturiol mewn cathod effeithio ar fywyd gwyllt lleol.
Pan ofynnwyd beth mae ‘Fluffy’ yn ei dwyn adref, dywedodd: “Ymddengys fod yn well gan rai cathod yr hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl: y llygod ac adar arferol. Mae gan eraill chwaeth fwy anarferol: Bu un perchennog yn anfodlon yn enwedig pan ddaeth o hyd i neidr y gwair fyw yn ei lolfa!”
Dim ond ychydig funudau sydd angen i gwblhau’r holiadur, ac mae croeso i unrhyw un sy’n berchen ar gath gymryd rhan yn yr ymchwiliad. Gellir dod o hyd i’r ffurflen ar http://bit.ly/1j9lE3c
“Er bod gweithgarwch dynol wedi cael gwared ar lawer o brif anifeiliaid ysglyfaethus o lawer o orllewin Ewrop, rydym wedi disodli rhai o’u heffeithiau rheibus drwy ein hoffter o gathod,” meddai Dr Rupert Marshall, Darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid, sy’n goruchwylio prosiect Henriette yn IBERS.
“Mae pobl yn effeithio ar eu hamgylchedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, o sŵn a llygredd cemegol i gynefinoedd a newid yn yr hinsawdd ac mae anifeiliaid anwes yn eitem arall ar y rhestr. Mae Henriette yn ymchwilio i natur eu heffeithiau.”
Nid yw ymchwil Henriette yn newyddion digalon i gyd – mae hefyd yn datgelu’r amrywiaeth o anifeiliaid gwyllt sydd i’w gweld yn agos at anheddau dynol: nid tylwyth teg yn unig sydd ar waelod eich gardd.
A beth mae’r cathod yn feddwl? Mae un gath y ffordd oedd yn well ganddynt aros yn ddienw, yn cyfaddef: “Rwy’n gwybod ei fod yn ddrwg, ond maent yn blasu’n mor llygodlyd!”
Mae Ymddygiad Anifeiliaid yn un o’r pynciau mwyaf poblogaidd ymhlith myfyrwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn IBERS ac yn cael ei astudio gan fyfyrwyr ar gynlluniau gradd o Gwyddor Anifeiliaid i Sŵoleg. Mae pob myfyriwr IBERS yn cael cyfle i gynnal prosiect ymchwil.
* Bydd cyfle i glywed mwy am gyfleoedd ar gyfer ymchwil ymddygiad ym Mhrifysgol Aberystwyth a chwrdd â Dr Marshall a’i gydweithwyr yn un o’r Diwrnodau Agored sydd ar y gweill ar Ddydd Sadwrn 17 Hydref a Dydd Sadwrn 7 Tachwedd.