Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Hydref 2015

Stopio troseddau cyn iddyn nhw ddigwydd

Mae meddalwedd cyfrifiadurol soffistigedig newydd yn helpu’r heddlu i ddarogan ym mha ardaloedd yng Nghaernarfon y mae’r lefelau uchaf o droseddau’n debygol o fod a rhoi stop arnyn nhw cyn iddyn nhw ddigwydd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio technegau plismona ‘rhagfynegol’ sy’n dangos ymhle mae’r galw mwyaf yn debygol o fod er mwyn lleoli swyddogion yn y llefydd cywir ar yr adegau cywir.

Yn ogystal ag edrych ar gofnodion troseddau, mae’r dadansoddiad ystadegol hefyd yn cynnwys edrych ar amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys y tywydd,  y diwrnod,  amrywiadau tymhorol megis y nifer o oriau o olau dydd yn ogystal  â ffactorau fel gwyliau banc.

Cafodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Winston Roddick, wybod mwy am Ymgyrch Falcade yn ystod ymweliad â Chaernarfon pan gafodd gyfle hefyd i gyfarfod arweinwyr busnes lleol

Yn ogystal, mae patrolau gweladwy ar droed yng nghanol y dref wedi cynyddu yng Nghaernarfon a Bangor rhwng 10pm a 3am ar nos Wener a nos Sadwrn.

Meddai Mr Roddick: “Mae Plismona rhagfynegol yn rhywbeth sy’n perthyn i’r oes hon a does neb yn gwneud gwell defnydd ohono na Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae troseddau’n disgyn i grwpiau.  Maen nhw’n cael eu cyflawni ar adegau penodol o’r diwrnod, ar adegau penodol o’r wythnos ac os edrychwch ar yr ystadegau, gallwch ddarogan pa bryd y byddant yn digwydd eto.

“Mae hyn yn eich galluogi chi felly i symud eich adnoddau i’r man lle’r ydych yn meddwl y bydd troseddau’n digwydd a thrwy hynny eu rhwystro rhag digwydd yn y lle cyntaf.  Mae’n ddull effeithiol, modern o blismona."

Cafodd yr ymdriniaeth newydd ei chroesawu gan y Cynghorydd Endaf Cook sy’n rhedeg siop sglodion a bwyty J&Cs Chippy yn y dref.

Yn ogystal, canmolodd Mr Cook y Comisiynydd am wireddu ei addewid i gynyddu patrolau gweladwy yn y dref.

Meddai: “Gallaf ddweud yn gwbl sicr bod Caernarfon yn lle llawer mwy diogel ac  nid dim ond Caernarfon ond Gwynedd i gyd. Mae hyn oll wedi digwydd diolch i Heddlu Gogledd Cymru a newyddion da hefyd yw’r ffaith fod y Comisiynydd wedi rhoi rhagor o swyddogion ar y stryd.”

Mae Arolygydd Brian Kearney yn hapus â sut y mae pethau’n mynd yng Nghaernarfon.

Meddai:  "Mae ‘na welliant pendant wedi digwydd.  Mae economi’r nos yn fywiog ac mae’r diwylliant caffi hefyd yn tyfu yng Nghaernarfon wrth i bobl eistedd allan ar y maes yn bwyta.

“Mae adfywiad y maes wedi denu twristiaid i ganol y dref, sydd yn beth cadarnhaol i’r economi lleol.

“Fel rhan o’r ymateb yr heddlu i anghenion plismona pobl Caernarfon rydym yn rhoi mwy o SCCH i mewn i ganol y dref ac i’r ardaloedd lle mae’r galw mwyaf ar y gwasanaeth.

“Drwy ddefnyddio dadansoddiadau plismona rhagfynegol gallwn ragweld  lle bydd y galw ac rydym yn anfon ein SCCH a’n swyddogion i’r ardaloedd hynny.

“Rydym yn dechrau gweithio’n fwy clyfar ac yn defnyddio dadansoddiadau ystadegol i ddangos i ni lle mae’r galw’n debygol o fod gyda’r nod o’i rwystro rhag digwydd yn y lle cyntaf.”

Yn gynharach eleni cafodd 26 o bobl oedd wedi cynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig eu carcharu am gyfanswm o 127 o flynyddoedd – y cyfanswm mwyaf erioed i ddeillio o un ymchwiliad yn ardal Heddlu Gogledd Cymru.

Cafodd 23 o ddynion a 3 dynes, i gyd o ardaloedd Caernarfon a Manceinion, eu dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon am eu rhan mewn cynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig dosbarth A a B i ogledd Cymru rhwng 2009 a 2014.

Ychwanegodd Mr Roddick:  “Mae’r neges yn glir,  troseddwyr ar raddfa fawr neu droseddwyr ar raddfa fach, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn eu dal nhw.”

Rhannu |