Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mai 2011
Karen Owen

Pum rheswm pam na ddylid codi atomfa newydd

MAE un o brotestwyr gwrth-niwclear amlycaf Cymru wedi mynd â’i neges i gynhadledd cyfranddalwyr cwmni sydd â’u bryd ar godi atomfeydd newydd yng ngwledydd Prydain.

Dydd Iau diwethaf, cafodd Dr Carl Clowes gyfle i ddweud wrth gyfranddalwyr y cwmni E.on, sydd am godi atomfa newydd yr Y Wylfa ar Ynys Môn, pam na ddylen nhw wneud hynny.

Yn ei araith yn ninas Essen, gerbron tua 5,000 o bobl sy’n dal siars yn y cwmni ynni rhyngwladol, rhestrodd Carl Clowes o leiaf bump “rheswm lleol” pam na ddylid codi atomfa newydd ar safle’r Wylfa.

“Mae Wylfa, ger fy mhentref i, yn un o wyth safle sydd wedi bod yn gartref i atomfa niwclear, ac sy’n cael eu gweld gan y llywodraeth yn Llundain fel safleoedd addas ar gyfer datblygu yn y dyfodol,” medai Carl Clowes.

“Llywodraeth ganolog sydd wedi gweld y penderfyniad yma. Does yna ddim ymgynghori wedi bod yn lleol.

“Mae E-on, ynghyd â’ch partneriaid RWE, yn dymuno codi gorsafoedd niwclear newydd yng Nghymru a Lloegr gyda dau neu dri adweithydd ym mhob un, ac rydach chi wedi ffurfio cwmni ar y cyd o’r enw Horizon Nuclear Power.

“Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod yna nifer o ddigwyddiadau wedi bod ar y safle, ac er bod perchnogion yr Wylfa wedi cael eu dirwyo am gyfanswm o €600,000 am fethu â chadw rheolau diogelwch. Ar achlysur arall, fe fu gorsaf Wylfa ar gau am ddwy flynedd tra’r oedd namau’n cael eu cywiro.

“Yn ddiweddar, ers y ddamwain yn Fukushima yn Japan, fe gafodd y Wylfa ei chau er mwyn gwneud be’ oedd yn cael ei alw’n ‘waith cynnal a chadw annisgwyl’. Mae’r Wylfa wedi cael ei ddewis fel safle i’w ddatblygu, gyda’r bwriad o agor yr orsaf newydd yno yn 2020.”

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |