Mwy o Newyddion
Cynllun newydd i wella gwasanaethau orthopedig yng Nghymru
Bydd pobl sy'n ysmygu neu dros bwysau yn cael cymorth i ymuno â rhaglen i golli pwysau neu roi'r gorau i ysmygu cyn cael rhai llawdriniaethau cyffredin fel rhan o gynllun newydd i wella gwasanaethau orthopedig.
Orthopedeg, yr arbenigedd sy'n cynnwys anafiadau a chlefydau yn yr esgyrn, cymalau a chyhyrau, yw'r gwasanaeth gofal wedi'i gynllunio mwyaf yng Nghymru. Mae dros hanner miliwn o ymgyngoriadau trawma ac orthopedeg i gleifion allanol yng Nghymru bob blwyddyn, a thua 40,000 o driniaethau dewisol cyffredin.
Gwelwyd cynnydd o 30% yn yr atgyfeiriadau gan feddygon teulu at ymgynghorwyr orthopedig ers 2005 - mwy na dwbl y cynnydd ym mhob arbenigedd arall gyda'i gilydd. Poblogaeth sy'n heneiddio; lefelau cynyddol o ordewdra a datblygiadau mewn arferion clinigol yw'r rhesymau am y cynnydd mewn atgyfeiriadau am driniaeth mewn ysbytai.
Mae Bwrdd Rhaglen Gofal wedi'i Gynllunio Cymru yn dod â chynrychiolwyr o feysydd gwasanaeth pwysig a byrddau iechyd ynghyd dan arweiniad Peter Lewis, yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal wedi'i gynllunio. Sefydlwyd y Bwrdd yn 2014 i helpu i lunio a darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer gofal wedi'i gynllunio, a gwella profiad y cleifion o ddefnyddio gwasanaethau.
Mae'r Cynllun Gweithredu Orthopedig Cenedlaethol, a luniwyd gan y bwrdd ac a fabwysiadwyd gan fyrddau iechyd, yn gosod cyfres o gamau gweithredu i ddatblygu gwasanaethau orthopedig cynaliadwy drwy fesurau i reoli capasiti a'r galw.
Mae'r cynllun wedi'i seilio ar egwyddorion gofal iechyd darbodus sef:
Gwneud yr hyn sydd ei angen yn unig, dim mwy, dim llai; a pheidio â gwneud niwed - sicrhau nad yw byrddau iechyd yn ymgymryd â thriniaethau y mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi cynghori na ddylid eu cyflawni;
Darparu gofal i'r rhai â'r anghenion mwyaf yn gyntaf - dylai pob claf sy'n cael ei ystyried fel achos brys gael ei weld o fewn chwe wythnos i gael ei gyfeirio gan feddyg teulu;
Lleihau amrywiadau amhriodol gan ddefnyddio arferion wedi'u seilio ar dystiolaeth mewn ffordd gyson a thryloyw - mae byrddau iechyd ar hyn o bryd yn cynnig nifer o apwyntiadau dilynol yn gyffredinol i gleifion. Bydd disgwyl i fyrddau iechyd bellach gomisiynu un apwyntiad dilynol ar ôl llawdriniaeth i osod clun neu ben-glin newydd, rhwng chwe wythnos a thri mis ar ôl y llawdriniaeth ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol. Mae hyn yn arfer cyffredin yng ngwasanaethau iechyd eraill y DU. Ni ddylid parhau i’w gweld fel cleifion allanol yn gyffredinol ar ôl hyn.
Gall ffactorau yn ymwneud â ffordd o fyw effeithio'n negyddol ar ganlyniadau rhai triniaethau cyffredin. Mae'n hysbys, er enghraifft, bod ysmygu yn effeithio ar ganlyniadau rhai triniaethau i'r droed a'r pigwrn, ac mae nifer o astudiaethau wedi dangos bod cleifion sy'n ysmygu neu dros bwysau â chyfraddau uwch o gymhlethdodau ar ôl y driniaeth ac yn aros am fwy o amser yn yr ysbyty.
Dan y cynllun newydd, wrth ystyried atgyfeirio claf i’r ysbyty i gael triniaeth orthopedig, bydd pob claf sy'n ysmygu neu sydd â mynegai màs y corff o 35 neu drosodd yn cael cymorth i roi'r gorau i ysmygu neu golli pwysau cyn cael llawdriniaeth. Bydd gofyn i fyrddau iechyd ddarparu amrywiol wasanaethau cymorth addas a threfn atgyfeirio briodol i'r cleifion.
Agwedd bwysig arall o'r cynllun fydd datblygu mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion (PROMs) - sy'n caniatáu i fyrddau iechyd ddeall y canlyniadau i gleifion ar ôl llawdriniaeth, a llunio adroddiadau.
Ar hyn o bryd nid oes ffordd safonol o ddeall pa mor effeithiol y bu llawdriniaethau orthopedig, ac a yw'r canlyniadau'r llawdriniaeth yn unol â disgwyliadau'r cleifion. Wrth ddatblygu'r mesurau newydd hyn a'u rhoi ar waith, bydd modd i ysbytai Cymru gymharu eu hunain ag ysbytai mewn rhannau eraill o'r DU, sydd eisoes yn eu defnyddio.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Mae Llywodraeth Cymru a'r GIG wedi bod yn effeithiol iawn yn lleihau'r amser aros ar gyfer triniaeth orthopedig dros y 10 mlynedd ddiwethaf.
"Daeth adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad bod gwasanaethau orthopedig Cymru wedi dod yn fwy effeithiol dros y ddegawd ddiwethaf, ond rydyn ni am fynd ymhellach i ddiwallu'r galw yn y dyfodol.
"Rydyn ni wedi canolbwyntio ar ostwng yr amser aros ar unwaith, ond wedi rhoi llai o sylw i ddatblygu systemau mwy cynaliadwy yn y tymor hir i ddiwallu'r galw yn y dyfodol.
"Mae'r cynllun hwn yn nodi beth sydd angen i GIG Cymru ei wneud i ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy er mwyn i ni gynnig y gwasanaethau gorau posib i gleifion. Mae hefyd yn nodi'r hyn y gall pobl ei wneud eu hunain i reoli eu hiechyd - rydyn ni'n gwybod bod atal afiechyd rhag digwydd yn y lle cyntaf yn llawer gwell na thrin a gwella afiechyd sydd eisoes wedi digwydd."
Dywedodd Mr Peter Lewis, arweinydd clinigol gofal wedi'i gynllunio yng Nghymru, a Llawfeddyg Fasgwlaidd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan: “Mae'r cynllun gweithredu newydd hwn ar gyfer orthopedeg yn casglu'r holl newidiadau angenrheidiol ar gyfer y gwasanaeth orthopedeg ynghyd mewn un cynllun, ac yn cyflwyno'r camau gweithredu i'r byrddau iechyd drwy'r tair egwyddor sy'n ysgogi'r rhaglen - gofal integredig, blaenoriaethu gwerth clinigol, ac anelu at fod o'r radd flaenaf.
"Mae’n hanfodol deall y canlyniadau a adroddwyd gan gleifion a rhoi sylw i'r materion pwysig sy'n medru effeithio arnynt, megis ffactorau'n ymwneud â ffordd o fyw, wrth drin nifer fawr o bobl ac er mwyn cymharu systemau gofal iechyd Cymru yn erbyn y sefydliadau gorau yn y DU a thramor."
Llun: Vaughan Gething