Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Hydref 2015

"Peidiwch â cheisio ei drwsio" - Ple i Weinidog ar ddysgu'r Gymraeg

Bydd ymdrech munud olaf gan ymgyrchwyr iaith, mewn cyfarfod heddiw, (dydd Mercher, 7fed Hydref) i ddwyn perswâd ar y Gweinidog Addysg i ddechrau o'r newydd gyda dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion, yn hytrach na cheisio gwella'r system o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith.   

Mae disgwyl cyhoeddiad pwysig y mis hwn ar ddyfodol y cwricwlwm Cymreig. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn pryderu y bydd y Llywodraeth yn parhau gyda dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yr hyn maen nhw'n disgrifio fel 'model sydd wedi methu'.  

Cafodd adroddiad yr Athro Davies ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i ystyried sefyllfa dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Medi 2013. Ymysg argymhellion adroddiad 'Un Iaith i Bawb' roedd disodli dysgu'r Gymraeg fel ail iaith gan sefydlu continwwm dysgu'r Gymraeg yn lle, er mwyn symud at gyflwyno fwyfwy o'r cwricwlwm drwy'r Gymraeg i bob plentyn. 

Bydd Keith Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol y Gymraeg yn y Cynulliad, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod gyda'r Gweinidog Addysg a'r ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Meddai Ffred Ffransis, aelod o grŵp ymgyrch addysg Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i geisio dwyn perswâd ar y Gweinidog i beidio â cheisio trwsio'r model aflwyddiannus o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith.

"Fyddai neb yn trio dysgu Saesneg fel ail iaith i ddisgyblion sy'n siarad Cymraeg, a byddwn ni'n galw ar i'r Gweinidog i ddod â'r pwnc arholiad Cymraeg fel ail iaith i ben, ac yn lle, sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn dysgu Cymraeg fel pwnc i bob disgybl gyda'r nod o gynyddu eu lefelau rhuglder fel gall pob un weithio a chyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg.

"Dylai'r cwricwlwm newydd hefyd sicrhau bod disgyblion yn derbyn o leiaf rhan o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg fel eu bod yn dod yn rhugl yn yr iaith. Dyw e ddim i'r Gweinidog a'r gweision sifil gosod allan y manylion ond, yn hytrach, gwneud datganiad o egwyddor ac i sefydlu gweithgor sy'n gynrychioladol o'r proffesiwn i weithredu ar y newid polisi radical o fewn cyfnod rhesymol." 

Mae nifer fawr o arbenigwyr addysg a mudiadau eraill hefyd wedi galw ar i'r Llywodraeth sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies i symud at addysg Gymraeg i bob plentyn. Ymysg cefnogwyr yr ymgyrch mae David Crystal, Athro mewn Ieitheg Prifysgol Bangor ac awdur Cambridge Encyclopedia of Language, yr undeb athrawon UCAC, a Gethin Lewis, cyn-Brifathro a chyn ysgrifennydd Cenedlaethol N.U.T. Cymru.

Rhannu |