Mwy o Newyddion
Galwad i gael adnabod ein hunain fel Cymry
Mae Cynghorydd Plaid Cymru o Fangor yn galw am newid yn y gyfraith er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i nodi yn glir eu hunaniaeth genedlaethol Gymreig ar ffurflenni swyddogol, dogfennau a bas-data.
Mae’r Cynghorydd Elin Walker-Jones sy'n cynrychioli trigolion Glyder ar Gyngor Gwynedd yn credu ei bod hi’n sefyllfa hurt nad yw'r gofrestr etholiadol swyddogol yn cynnwys blwch ar gyfer pobl Cymru i ddatgan eu bod yn Gymry. Mae'r gofrestr ar hyn o bryd yn dangos blwch yn nodi Prydeiniwr/Prydeinwraig. Mae'r un peth yn wir ar gyfer dogfen basbort y Deyrnas Gyfunol, heb unrhyw le i nodi eich cenedligrwydd fel unigolyn o Gymru.
"Rwy'n galw ar Gynghorwyr Gwynedd i gefnogi fy nghais ein bod yn lobïo San Steffan a chysylltu â'r Gweinidog dros Ddiwygio Cyfansoddiadol a’r Ysgrifennydd Seneddol, John Penrose AS i wthio am y newid hwn.
"Mae pob cartref yng Ngwynedd wedi derbyn ffurflen ymholiad etholiadol yn ddiweddar, ac ar y ffurflen honno nid oes unrhyw ffordd i Gymro na Chymraes sy’n dymuno nodi eu hunaniaeth Gymreig. Rhaid i bobl Cymru adnabod eu hunain fel fel Prydeiniwr/wraig – boed nhw’n dymuno gwneud hynny ai peidio. Nid Prydeinwyr ydyn ni ond Cymry,” meddai’r Cynghorydd Walker-Jones.
Mae'r ffurflen yn cael ei hanfon i bob cartref gan eu hawdurdod lleol, ond mae’r drefn statudol yn cael ei rheoli gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan.
"Mae'r weithdrefn hon yn hynafol. Rydym yn byw mewn democratiaeth yn yr 21ain ganrif, ac mae gennym ni hefyd, erbyn hyn, Lywodraeth ein hunain yng Nghaerdydd sy'n gweithio ar ran pobl Cymru. Dylen ni hefyd gael y cyfle i gael ein hadnabod fel fel unigolion Cymreig.
"Yn 2011, cawsom y cyfle i nodi ein llinach a’n hunaniaeth Gymreig yng Nghyfrifiad 2011. Dylai holl ddogfennaeth swyddogol eraill a chronfeydd data'r Llywodraeth ddilyn yr un trywydd. Rydym yn cael ein gwneud i deimlo'n israddol yn ein gwlad ein hunain.
"Rydym yn falch o fod yn Gymry, ac yn falch o chwifio'r faner dros Gymru. Mae gennym hyder yn ein cenedl, ein llywodraethu yn lleol ac yn genedlaethol. Mae'n bryd bod y sefydliad yn dangos y parch dyledus i ni,” eglura’r Cynghorydd Walker-Jones.
Yn ôl Aelod Seneddol y Blaid yn Arfon, Hywel Williams: “Ymladdodd Plaid Cymru ymgyrch hir a llwyddiannus i sicrhau bod ffurflenni’r Cyfrifiad ar gael yn Gymraeg. Dwi’n synnu’n fawr nad yw'r Llywodraeth wedi parhau i wthio’r cynnydd yn ei flaen a byddaf yn galw arnynt i wneud hynny pan fydd y Senedd yn dychwelyd ar ôl y toriad. Byddaf hefyd yn awyddus i holi Cwestiwn Seneddol ar y mater.”
Bydd y Cynghorydd Elin Walker-Jones yn cynnig rhybudd o gynnig yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd ddydd Iau, 8 o Hydref yng Nghaernarfon.