Mwy o Newyddion
Gostyngiad mewn galwadau 999 i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Gwelodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ostyngiad o 37% yn y digwyddiadau a fynychwyd ganddo yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf.
Yn 2004/05, bu 26,979 o alwadau, gan gynnwys larymau ffug, a ddisgynnodd i 17,119 yn 2014/15.
Disgynnodd tanau mewn adeiladau nad oedd yn adfeilion, ceir neu unrhyw dân a oedd yn cynnwys claf o 4,993 i 2,056 yn ystod yr un amser.
Dywedodd adroddiad i mewn i danau ar draws Cymru er 2001/02 y gall ymgyrchoedd diogelwch tân a'r gwaith a wnaethpwyd ar draws Cymru fod yn ffactor yn y gwymp.
Dywedodd Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau, Gary Johnson: "Mae gennym dîm pwrpasol o staff, â'u rôl yw addysgu'r cyhoedd a busnesau ynghylch sut mae atal tanau rhag digwydd."
Disgynnodd "Tanau Eilaidd" yn cynnwys biniau, glaswelltir ac adeiladau adfeiliedig a ffyrdd o 9,380 i 3,457 yn ystod yr un cyfnod o ddeng mlynedd.
Roedd galwadau ffug yn cyfrif am tua 46% o bob galwad a fyddinwyd yn 2014/15.
Dywedodd Rheolwr Grŵp Gary Davies, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau nad oedd y gostyngiad yn nifer y galwadau'n syndod.
"Mae hwn o ganlyniad uniongyrchol i'r buddsoddiad a'r ffocws a wnaethpwyd gennym, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, mewn mesurau rhagweithiol, ataliol megis addysgu, rhaglenni cymunedol ac ymgyrchoedd diogelwch."
Dywedodd Prif Swyddog Tân Huw Jakeway: "Mae'r gostyngiad mewn galwadau tân drwy ein gwaith ataliol wedi ein galluogi i hyfforddi, paratoi ar gyfer a darparu gwasanaethau critigol ehangach y mae cyhoedd De Cymru'n rhoi gwerth arnynt."