Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mai 2011
Karen Owen

Problem beirniaid eisteddfodau cylch

MAE angen i’r Urdd edrych eto ar y ffordd y maen nhw’n dewis beirniaid eisteddfodau cylch, yn ôl cyfeilyddes a chyfarwyddwr artistig Canolfan Cerdd William Mathias.

Sioned Webb yw’r ddiweddaraf i ymuno â’r ddadl a leisiwyd gyntaf yn Y Cymro ddeufis yn ôl, ynglŷn â phwy sy’n cael eu gwahodd i feirniadu yn y cannoedd o eisteddfodau cylch sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth bob blwyddyn – y cam cyntaf i gystadleuwyr llwyfan tuag at y brifwyl ieuenctid ddiwedd Mai.

Yn y papur hwn ym mis Mawrth, roedd enillydd cenedlaethol a beirniad llefaru a oedd yn dymuno aros yn ddienw yn dweud bod y mudiad ieuenctid yn rhy ffwrdd-â-hi wrth ddewis pobl i dafoli cystadlaethau ar lefel leol, gan ddewis actorion oedd heb gefndir na phrofiad yn y grefft, neu bobl anghymwys, i wneud y gwaith pwysicaf oll.

Yr wythnos hon, mae Sioned Webb yn cytuno â’r farn honno, ac yn dweud bod eisteddfodau cylch bellach wedi mynd yn llefydd lle mae beirniaid dibrofiad yn bwrw eu prentisiaeth, ond eu bod nhw’n gwneud hynny ar draul cystadleuwyr da a allai fod yn llithro trwy’r rhwyd ac yn colli cyfle.

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |