Mwy o Newyddion
Cynllun ar gyfer pwyntiau gwefru ceir trydan
Mae Cyngor Abertawe wedi cofrestru diddordeb gyda'r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel i dderbyn y rownd nesaf o arian i helpu i dalu am gostau gosod pwyntiau gwefru ychwanegol mewn trefi a dinasoedd ar draws y DU.
Mae eisoes gan y cyngor 11 o geir trydan yn ei gerbydlu. Mae pwyntiau gwefru yn nepos y cyngor ond petai'r cais am arian yn llwyddiannus, gellid gosod mwy yn Abertawe yn y dyfodol.
Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf, "Fel cyngor, rydym yn gwbl gefnogol o dechnolegau newydd fel hyn. Nid yn unig y mae ceir trydan yn llesol dros ben i'r amgylchedd gan nad ydynt yn allyrru unrhyw garbon, byddant hefyd yn arbed llawer o arian ar gostau petrol i fodurwyr yn y tymor hir oherwydd nad oes angen llenwi'r tanc yn rheolaidd.
"Mae ceir fel hyn yn rhoi cip ar y dyfodol wrth i ni wneud cynnydd mawr tuag at ddatblygu dulliau o deithio sy'n 100% yn wyrdd ac yn gynaliadwy. Fel awdurdod, mae angen i ni fod ar flaen y gad yn hyn o beth a dyna pam mae gennym eisoes nifer o geir trydan yn ein cerbydlu, ond rydym hefyd yn bwriadu cynyddu nifer y pwyntiau gwefru sydd ar gael ar draws y ddinas. Wrth i geir trydan ddod yn fwyfwy poblogaidd, mae'n bwysig ein bod ni yn Abertawe mewn sefyllfa i fanteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau technolegol. Bydd hyn yn cryfhau ein statws fel dinas gynaliadwy flaengar sydd ar flaen y gad fyd-eang i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd."
Mae timau fel yr Adran Ailgylchu, yr Adran Priffyrdd a'r Gwasanaeth Adeiladu ac Eiddo Corfforaethol ymhlith y rhai sydd eisoes yn defnyddio ceir trydan yng Nghyngor Abertawe. Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cyflwyno chwe fan drydan yn y misoedd nesaf.