Mwy o Newyddion
Ni ddylai’r Mesur Undebau Llafur adweithiol fod mewn grym yng Nghymru
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC wedi dweud na ddylai Mesur Undebau Llafur adweithiol Llywodraeth y DG fod mewn grym yng Nghymru.
Wrth ymateb i araith gan yr Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol, dywedodd Ms Wood y byddai darpariaethau’r Bil yn effeithio ar ddatblygu gweithlu a chysylltiadau diwydiannol yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd eisoes wedi eu datganoli i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Cadarnhaodd, petai’r Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio ar y mesur trwy’r broses cydsynio deddfwriaeth, yna byddai Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn pleidleisio i geisio atal y mesur.
Rhybuddiodd Ms Wood hefyd y gallai ymdrechion i wthio’r mesur drwodd greu brwydr gyfreithiol ddiangen arall rhwng Llywodraethau Cymru a’r DG.
Ychwanegodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag undebau llafur ar ddatblygu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Leanne Wood: “Mae’r Mesur Undebau Llafur yn ddrwg i bobl sy’n gweithio ar draws y DG, ond yng Nghymru, mae datganoli yn rhoi cyfle penodol i ni wrthwynebu cynlluniau’r Torïaid a datblygu dewis cadarnhaol arall.
"Byddai’r mesur yn effeithio ar ddatblygu gweithluoedd a chysylltiadau diwydiannol mewn iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus craidd eraill sydd eisoes dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
"Rhaid i Lywodraeth y DG felly gadarnhau na fydd mewn grym yng Nghymru. Os methant wneud hyn, bydd fy Grŵp yn y Cynulliad yn pleidleisio i atal cydsyniad deddfwriaethol.
"Gallai ymdrechion i wthio’r mesur drwodd yn erbyn dymuniadau mwyafrif yr ACau greu brwydr gyfreithiol ddiangen arall rhwng y llywodraethau.
“Mewn llywodraeth, gweithiodd fy rhagflaenydd fel arweinydd Plaid Cymru gyda’r undebau llafur fel rhan o bartneriaeth tuag at drin yr argyfwng ariannol blaenorol.
"Wedi etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol fis Mai nesaf, byddai llywodraeth Plaid Cymru yn agor y drws i undebau llafur oedd â diddordeb mewn datblygu a gwella ein gwasanaethau cyhoeddus a hefyd wella sgiliau ein gweithlu.”