Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Hydref 2015

Plaid Cymru yn addo adfer urddas y proffesiwn dysgu

Bydd gadael i athrawon gymryd mwy o reolaeth dros eu datblygiad proffesiynol yn codi safonau yn y proffesiwn dysgu, medd Plaid Cymru.

Bwriada Plaid Cymru wneud datblygu proffesiynol parhaus yn orfodol, a rhoi athrawon yng ngofal eu datblygiad proffesiynol eu hunain, meddai Gweiniodg Addysg cysgodol Plaid Cymru, Simon Thomas.

Bydd Plaid Cymru hefyd yn gweithio gydag undebau’r athrawon i dorri ar fiwrocratiaeth i athrawon, gan roi mwy o amser iddynt ddysgu, meddai. Nodwyd lleihau baich gwaith yn ddiweddar fel problem gan 88% o athrawon mewn arolwg gan yr NUT.

Heddiw (Llun Hydref 5) yw Diwrnod Athrawon y Byd.

Dywedodd Gweiniodg Addysg cysgodol Plaid Cymru, Simon Thomas: “Athrawon sydd yn gwybod orau sut i wella eu safonau eu hunain, a bydd Plaid Cymru yn ymddiried ynddynt i arwain.

"Mae’r llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi taflu un menter ar ôl y llall at athrawon, gan eu gadael gyda thomenydd o ffurflenni i’w llenwi a thargedau i’w cyrraedd, heb roi fawr o amser i ddim byd arall.

“Bydd Plaid Cymru yn rhoi’r cyfrifoldeb yn ôl yn nwylo athrawon, ac yn adfer urddas y proffesiwn. Rydym eisiau gwneud datblygu proffesiynol parhaus yn orfodol, fel y gall athrawon gadw i fyny â’r arferion gorau, yn yr un modd ag y mae cyfreithwyr a meddygon yn gorfod parhau i brofi eu gwybodaeth yn eu meysydd.

“Dwyf i ddim eisiau gweld athrawon yn cael eu llethu gan fiwrocratiaeth ddiangen. Rwyf eisiau torri ar fiwrocrastiaeth a gadael i athrawon fwrw ymlaen a’r dasg o ddysgu.

“Mae’n bryd ymddiried unwaith eto yn ein hathrawon. Bydd Plaid Cymru yn gwneud hynny.”

Rhannu |