Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Hydref 2015

Y llywodraeth yn cefnogi galwad Plaid Cymru am wlad “rhydd o GM”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi galwadau Plaid Cymru am i Gymru aros yn rhydd o gnydau GM.

Wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i alw ar i Gymru  yr wyth amrywiaeth llawn o  india corn GMO, derbyniodd Llyr Gruffydd AC gadarnhad y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando ar ei alwad.

Dywedodd Llyr Gruffydd: “Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi fy ngalwadau ac wedi cadw Cymru’n rhydd o  GM.

"Mae gan Gymru sector bwyd cryf ac enw da am fod yn gynhyrchwr glân, gwyrdd o fwyd o safon. Mae angen i ni warchod yr enw da hwn a chefnogi ffermwyr.

“Nid yw Plaid Cymru eisiau cnydau GM yng Nghymru, ac yr wyf yn falch fod y Gweinidog yn cytuno â ni.”

Rhannu |