Mwy o Newyddion
Wythnos i gofio trychineb Capel Celyn
Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts yn arwain wythnos o ddigwyddiadau i nodi 50 mlynedd ers boddi pentref Capel Celyn ac agoriad swyddogol Llyn Celyn gan Gyngor Dinas Lerpwl yn Hydref 1965.
Bydd rali i goffáu 50 mlynedd ers agoriad swyddogol Llyn Celyn a chofio colled cymuned Tryweryn yn cael ei gynnal ar Argae Capel Celyn Ddydd Sadwrn, Hydref 17eg am 12.00yh yng nghwmni cyn Aelodau Seneddol Plaid Cymru, Dafydd Wigley ac Elfyn Llwyd, ynghyd â Dafydd Iwan ac Emyr Llewelyn.
Yn 1956, noddwyd mesur preifat yn y Senedd gan Gyngor Dinas Lerpwl yn galw am godi argae yn Nyffryn Tryweryn. Roedd y datblygiad yn cynnwys boddi Capel Celyn. Er gwrthwynebiad chwyrn i hyn, o dan arweiniad Arweinydd Plaid Cymru Gwynfor Evans, boddwyd y dyffryn yn 1965. Collwyd y pentref, ei hadeiladau gan gynnwys y swyddfa bost, yr ysgol, y capel a’i mynwent. Boddwyd deuddeg o gartrefi a ffermydd a chollodd 48 o’r 67 a drigai yn y dyffryn, eu cartrefi.
Bydd y garreg filltir yn cael ei chydnabod yn y Senedd hefyd, mewn dadl yn Neuadd Westminster gan Liz Saville Roberts AS (14.10.15).
Meddai: “Ers boddi Capel Celyn, mae datblygiad sylweddol wedi bod yn ymwybyddiaeth cenedlaethol Cymru, ond mae ei hadnoddau naturiol yn parhau yn nwylo gwlad arall gyfagos; ni fu unrhyw ddatblygiadau i wneud ailadrodd y digwyddiad hwn yn anghyfreithlon.
"Dylai Llywodraeth y DU, wrth gyflwyno Mesur Cymru, rhoi rheolaeth lawn o adnoddau naturiol Cymru i bobl Cymru. Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod y gyfraith yn cael ei newid fel y byddai ailadrodd yr hyn a ddigwyddodd yng Nghapel Celyn 50 mlynedd yn ôl yn anghyfreithlon heddiw.
"Fyth eto dylai pobl Cymru gael eu gorfodi o’u cymunedau yn erbyn eu hewyllus, yn erbyn ewyllys eu gwlad ac ewyllys y rhai sy’n ein cynrychioli.
"Hyderaf y bydd nifer yn ymuno â ni ar Argae Llyn Celyn i nodi’r atgof yma o pham na ddylid fyth eto thanbrisio gwerth tir Cymru, diwylliant Cymreig a chymunedau Cymreig.”