Mwy o Newyddion
Rhaid ystyried defnyddiwyr Lôn Eifion yng nghynlluniau ffordd osgoi Bontnewydd
Mae galwadau wedi ei gwneud ar i Lywodraeth Cymru edrych ar ddarparu ffordd ddiogel i feicwyr a cherddwyr pan fydd gwaith ar Ffordd Osgoi Bontnewydd yn dechrau flwyddyn nesaf, yn dilyn pryderon gan bobl lleol. Bu Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones a’r Aelod Seneddol Hywel Williams yn ymweld â chylchfan y Goat Llanwnda er mwyn trafod y mater dan sylw.
Mae Alun Ffred Jones AC a Hywel Williams AS wedi derbyn nifer o gwynion diweddar gan etholwyr, sy’n bryderus ynglŷn a’r diffyg darpariaeth ar gyfer beicwyr a cherddwyr yng nghynllun cylchfan Y Goat Llanwnda ar gyfer y Ffordd Osgoi newydd.
O dan y cynllun presenol, byddai beicwyr a cherddwyr a ddefnyddir Lôn Eifion yn gorfod croesi dwy ffordd fawr, un ohonynt fyddai’r A487. Mae etholwyr yn galw am groesfan aml bwrpasol er mwyn lliniaru unrhyw beryg posibl.
Dywedodd Alun Ffred Jones AC: “Rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan nifer o etholwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn feicwyr, sydd â pryderon ynglŷn ag effaith posib cylchfan newydd y Goat Llanwnda ar gerddwyr a beicwyr sy’n defnyddio Lôn Eifion. Mae Lôn Eifion yn hynod boblogaidd ymysg pobl leol ac ymwelwyr; yn gyswllt rhwng Caernarfon a Bryncir tuag at Borthmadog.
"Mae fy etholwyr yn bryderus y bydd cylchfan newydd y Goat Llanwnda yn brysurach o lawer, gyda lledaenu’r ffordd yn gwaethygu’r sefyllfa. Maent yn awyddus i weld camau yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch beicwyr a cherddwyr sy’n croesi’r ffordd. Fel beiciwr fy hun, rwy’n deallt eu pryderon ac yn pwyso ar y Lywodraeth Cymru i weithredu.
"Y newyddion da yw fod trafodaethau ar y gweill ac mae’r cynllunwyr yn ymwybodol o’r mater. Byddaf yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa.”
Dywedodd Hywel Williams AS: “Rwy’n hynod falch fod y ffordd osgoi yn mynd yn ei blaen. Ond mae hon yn un broblem y gellid ei datrys. Hyderaf bydd y cynllunwyr yn gwneud pob ymdrech i dawelu meddyliau pobl lleol a sicrhau darpariaeth ar gyfer beicwyr a cherddwyr.”