Mwy o Newyddion

RSS Icon
01 Hydref 2015

Gwaharddiad ar smygu mewn ceir yn dod i rym

Bydd y gwaharddiad ar smygu mewn ceir yn cludo plant dan 18 oed yn dod i rym yng Nghymru heddiw (dydd Iau 1 Hydref).
 
Mae’r gyfraith newydd, sydd hefyd yn dod i rym yn Lloegr, yn golygu:

* O heddiw ymlaen, bydd yn anghyfreithlon smygu mewn cerbydau preifat pan fydd rhywun dan 18 oed yn bresennol;

* Mae’n rhaid i gerbyd preifat fod yn ddi-fwg os yw’n gaeedig, bod mwy nag un person yn bresennol a bod un ohonynt dan 18 oed;

* Bydd yn drosedd i berson o unrhyw oedran smygu mewn cerbyd preifat pan fydd person ifanc dan 18 oed yn bresennol neu i yrrwr, gan gynnwys darpar yrrwr, beidio ag atal rhywun rhag smygu mewn amgylchiadau o’r fath;

* Y ddirwy ar gyfer y ddwy drosedd yw hysbysiad cosb benodedig o £50. Gallai rhywun sy’n cyflawni’r ddwy drosedd gael dwy ddirwy.

* Nid yw’r rheolau’n berthnasol i e-sigaréts.

* Nid yw’r gyfraith yn berthnasol pan fydd person ifanc dan 18 oed yn smygu fel yr unig berson yn y cerbyd;

* Bydd yr heddlu ac awdurdodau lleol yn gorfodi’r rheoliadau.

Mae ymchwil yn dangos bod 17% o blant o deuluoedd mwy tlawd yn nodi bod smygu’n digwydd yn eu ceir o’i gymharu â 7% o blant o deuluoedd mwy cefnog. Dywedodd ugain y cant o blant i ysmygwyr bod smygu’n cael ei ganiatáu yng nghar y teulu.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: “Bwriad y newid hwn i’r gyfraith yw amddiffyn plant a phobl ifanc sydd heb ddewis ond anadlu mwg ail-law pobl eraill. Pan fo pobl yn penderfynu cynnau sigarét er bod plant yn y car, maen nhw’n peryglu bywydau’r bobl ifanc hynny.

“Mae mwg ail-law yn gysylltiedig â phob math o broblemau iechyd sy’n medru bod yn rhai marwol, gan gynnwys syndrom marwolaeth sydyn babanod, heintiau ysgyfaint ac asthma.

“Hyd yn oed pan fydd y ffenestri ar agor, does dim modd i’r plant osgoi peryglon mwg ail-law – mae tystiolaeth yn dangos bod lefelau’r cemegau gwenwynig yn uchel yn amgylchedd caeedig y car, ac mewn gwirionedd mae’r mwg yn cael ei chwythu tuag at y sedd gefn.

“Mae’r bobl sy’n smygu pan fo plant yn y car yn gwybod na ddylen nhw wneud hynny, ac fe fydd y gyfraith newydd hon yn hwb i’r cyfeiriad cywir. Mae hefyd yn ein helpu yn ein hymdrechion i wneud Cymru’n wlad ddi-fwg.

“Mae hwn yn gyfle i rai pobl newid eu bywydau er gwell. Mae un lle’n llai i smygu yn rhoi un rheswm arall i roi’r gorau iddi, a byddwn yn parhau i roi cymorth a chyngor i’r rheini sydd eisiau gwneud hynny.”

Daw dau newid arall i rym yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref:

*  Bydd yn drosedd gwerthu e-sigarét i unrhyw un dan 18;

* Bydd yn drosedd prynu cynnyrch tybaco neu e-sigaréts ar ran rhywun dan 18.

I gael rhagor o wybodaeth am y newid i’r gyfraith ac am gymorth i roi’r gorau i smygu, ewch i www.cychwyniachcymru.co.uk.

Gydag un lle’n llai i smygu, mae un rheswm arall i roi’r gorau iddi. Ymunwch â Stoptober ar www.dimsmygucymru.com/stoptober.

Rhannu |