Mwy o Newyddion
Rhoi trwydded forol i Horizon
Mae trwydded forol wedi’i rhoi i Horizon Nuclear Power Wylfa Limited i ganiatáu iddynt wneud gwaith arolygu ar wely’r môr yn Ynys Môn.
Fe fydd y drwydded, a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn caniatáu i Horizon ddrilio tyllau turio er mwyn arolygu gwely’r môr ym Mhorth y Pistyll.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i gyfarwyddo’r gwaith o gynllunio, caniatáu a dylunio agweddau ar waith posibl yn y môr ym Mhorth y Pistyll, fel rhan o brosiect gosaf bŵer niwclear Wylfa Newydd.
Ni fydd y drwydded yn caniatáu i Horizon ddechrau ar y gwaith yn syth, oherwydd bydd angen iddynt gyflwyno gwybodaeth er mwyn bodloni amodau arbennig.
Mae’r rhain yn ymwneud â datganiad dull manwl a chamau lliniaru ar gyfer gwarchod mamaliaid môr a bioddiogelwch.
Ni ddylai’r gwaith o arolygu gwely’r môr bara mwy na 12 mis
Meddai Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gogledd Cymru yn CNC: “Mae’n bwysig i unrhyw weithgaredd o’r fath fod â chamau ar waith i leihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd.
“Wrth wneud ein penderfyniad, buom yn ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd yn y cais a’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori.
“Rydym yn fodlon y bydd amodau’r drwydded forol yn gwarchod yr amgylchedd ac iechyd pobl heb amharu ar y defnydd cyfreithlon a wneir o’r môr.”
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y broses drwyddedu ar gwefan CNC https://naturalresources.wales/apply-and-buy/marine-licensing/?lang=cy