Mwy o Newyddion
Y nifer sydd wedi cofrestru ar gyfer Cyflymu Cymru yn pasio’r hanner miliwn
Heddiw, cyhoeddodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, fod mwy na hanner miliwn o eiddo yng Nghymru yn gallu cael band eang cyflym iawn erbyn hyn, diolch i raglen Cyflymu Cymru.
O ran y nifer sy’n cael band eang cyflym iawn, mae Cymru eisoes ar y blaen i wledydd datganoledig eraill y Deyrnas Unedig. Gan ystyried ffigurau’r rhaglen Cyflymu Cymru a’r cwmnïau masnachol gyda’i gilydd*, mae 79 y cant o eiddo yn gallu band eang cyflym iawn erbyn hyn.
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yw Cyflymu Cymru. Mae’n dod â band eang cyflymach i ardaloedd na fyddai’n gallu cael mynediad ato fel arall.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae 504,352 o eiddo yn gallu cael band eang cyflym iawn yng Nghymru ac mae hynny diolch i raglen Cyflymu Cymru.
Dywedodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: “Mae pasio’r ffigur o hanner miliwn yn garreg filltir bwysig i Cyflymu Cymru. Mae hynny’n fwy na hanner miliwn o eiddo yng Nghymru na fyddai, heb Cyflymu Cymru, yn gallu cael band eang cyflym iawn.
“Mae’r ffordd rydyn ni’n gweithio heddiw a’r ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau yn golygu ei bod hi’n hanfodol inni gael cysylltiad rhyngrwyd sy’n ddibynadwy a chyflym. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn Cyflymu Cymru, gan sicrhau bod Cymru yn un o’r gwledydd sydd â’r cysylltiadau band eang gorau yn Ewrop.
“Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Cyflymu Cymru, ond dyw’r gwaith ddim ar ben o bellfordd. Mae’n rhaglen heriol ac mae peirianwyr BT yn dal i weithio bob dydd i ddod â band eang cyflym iawn i gymunedau ym mhob cwr o Gymru.”
Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop wedi rhoi cyllid ar gyfer y prosiect. Mae BT hefyd wedi cyfrannu rhagor o gyllid i gyflwyno band eang ffeibr ar draws Cymru yn fasnachol.
Dylai aelwydydd a busnesau sydd am elwa ar fanteision band eang gysylltu â darparwr gwasanaethau rhyngrwyd o’u dewis i drefnu cael y gwasanaeth.