Mwy o Newyddion
Mwy o blant yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru, a llai mewn gofal
Yn ôl ystadegau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw, mae mwy o blant yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru ac mae llai ohonynt o dan ofal awdurdodau lleol.
Mae'r ffigurau'n dangos bod 5,617 o blant yng Nghymru yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru ar 31 Mawrth 2015, sydd 128 (2.2%) yn llai na ffigur y flwyddyn flaenorol.
Yn ogystal â hynny, mae'r ffigurau'n dangos hefyd fod 383 o blant mewn gofal wedi cael eu mabwysiadu yn ystod yr un cyfnod, sef cynnydd o 38 (11%) ar ffigur y flwyddyn flaenorol.
Mae'r Gweinidogion wedi sefydlu rhaglenni ac wedi buddsoddi'n sylweddol ynddynt. Mae'r rhain yn cynnwys Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a'r Bwrdd Integredig Cymorth i Deuluoedd, sydd â'r nod o gadw teuluoedd gyda'i gilydd a helpu i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.
Mae grŵp llywio strategol ar wella canlyniadau ar gyfer plant wedi cael ei sefydlu i ddatblygu dull cenedlaethol o ymdrin â phlant sy'n derbyn gofal. Bydd y dull newydd hwn yn canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, hyrwyddo cydweithio ar draws asiantaethau ac yn nodi arferion da a'u rhannu.
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cymru, sy'n wasanaeth newydd a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd, yn hyrwyddo mabwysiadu ac yn gweithio i gynyddu nifer y bobl sy'n mabwysiadu.
Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Dw i'n credu ein bod ni'n derbyn gormod o blant i ofal yr awdurdodau lleol. Mae angen inni wneud mwy i ‘drwsio’ teuluoedd lle y gallwn ni yn hytrach nag achub plant a'u rhoi mewn gofal. Dw i wedi fy nghalonogi o weld bod nifer y plant sy'n derbyn gofal gan ein hawdurdodau lleol wedi syrthio eleni.
“Dw i hefyd yn falch o weld nifer y plant sy'n cael eu mabwysiadu yn codi. Hoffwn i dalu teyrnged i'r teuluoedd sydd wedi bod yn barod i roi'r cariad a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnyn nhw i rai o'n plant mwyaf agored i niwed. Dw i hefyd am ddiolch am waith llywodraeth leol ac asiantaethau'r trydydd sector, sy'n darparu'r gefnogaeth hanfodol sydd eu hangen ar y teuluoedd hyn."