Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Medi 2015

Deiseb yn galw am sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol swyddogol

Bydd deiseb yn galw am sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol swyddogol yng Nghymru yn cael ei throsglwyddo i Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol ddydd Mercher, 30 Medi am 1.00pm.

Dyma eiriad llawn y ddeiseb: "Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon, yn annog Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol swyddogol yng Nghymru.  Byddai hyn yn goffâd priodol i bawb a ddioddefodd yn ystod y rhyfel ac yn enwedig i'r rhai a safodd yn nhraddodiad Cymreig heddychiaeth er gwaethaf y cost personol.  Cymru fyddai'r wlad gyntaf i wneud hyn - gweithred a all ysbrydoli eraill i weithredu yn yr un modd."

Bydd aelodau'r Pwyllgor Deisebau yn derbyn y ddeiseb ar risiau'r Senedd.

Casglwyd tua 400 o lofnodion ar gyfer y ddeiseb, a chafodd ei dwyn gerbron gan Ddiwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol Cymru.

Rhannu |