Mwy o Newyddion
Nifer y plant sy’n cael y brechlyn MMR yn uwch nag erioed
Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw mae nifer y plant sy'n cael y brechlyn MMR (yn erbyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela) wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed yng Nghymru.
Roedd naw deg tri y cant o blant Cymru a ddathlodd eu pen blwydd yn bump oed yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2015 wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR. Dyma'r nifer mwyaf o blant pum mlwydd oed sydd wedi cael y brechlyn yn ystod unrhyw flwyddyn erioed.
Yn gyffredinol, mae 95.8% o blant ar draws Cymru wedi cael y brechlyn MMR erbyn iddynt ddathlu eu pen blwydd yn ddwy oed. Yn Ynys Môn mae'r gyfradd uchaf, lle mae 98% o blant wedi cael eu brechu.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylid sicrhau bod 95% o blant wedi'u brechu er mwyn atal y frech goch rhag lledaenu.
Ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2015, yn ôl y ffigurau diweddaraf ar frechu:
* Roedd mwy na 95% o blant a ddathlodd eu pen blwydd yn flwydd oed yn ystod y flwyddyn wedi cael eu brechiad pump mewn un, ac wedi cael eu brechu rhag meningitis C a niwmococol (PCV);
* Roedd 98% o blant a ddathlodd eu pen blwydd yn ddwy oed yn ystod y flwyddyn wedi cael eu brechiad pump mewn un a chafodd 97% eu brechu rhag meningitis C;
* Roedd nifer y rhai a gafodd ddau ddos o'r brechlyn rotafeirws newydd cyn eu pen blwydd yn flwydd oed bron yn 84%. Hwn oedd y grŵp cyntaf o blant a oedd yn gymwys i gael y brechlyn rotafeirws. Yn ôl y data chwarterol ar y rhai a gafodd eu brechu, cafodd 92.7% eu brechu ym mhedwerydd chwarter 2014.
Mae nifer y rhai sy'n cael y brechlyn MMR ledled y DU yn dal i godi yn dilyn y cwymp ddechrau'r blynyddoedd 2000 ar ôl i honiadau a gafodd eu profi yn anghywir gael eu gwneud am y brechiad.
Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae rhieni ar draws Cymru wedi dechrau cael hyder unwaith eto yn y brechlyn MMR hynod effeithiol ac mae'r ystadegau hyn yn dangos pa mor bell rydyn ni wedi dod.
“Ond, allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau a dw i'n gobeithio y gwelwn ni ragor o gynnydd yn y nifer a fydd yn cael pob brechlyn ar gyfer plant y flwyddyn nesaf.
“Hoffwn i achub ar y cyfle hwn i atgoffa rhieni nad yw hi byth yn rhy hwyr i'ch plentyn gael y ddau ddos o'r brechlyn MMR sydd eu hangen arnyn nhw i'w hamddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela.”
Ffeithiau allweddol
* Mae brechu yn atal salwch, anabledd a marwolaethau o afiechydon y gellir eu hosgoi drwy frechlyn, gan gynnwys canser ceg y groth, diptheria, hepatitis B, y frech goch, clwy'r pennau, pertwsis (y pas), niwmonia, polio, dolur rhydd rotafeirws, rwbela a thetanws.
Mae'r nifer sy'n cael y brechlynnau newydd a brechlynnau sydd heb gael lawer o ddefnydd yn y gorffennol yn codi.
* Amcangyfrifir bod imiwneiddio yn atal tua dwy neu dair miliwn o farwolaethau dros y byd bob blwyddyn ar hyn o bryd.