Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Medi 2015

Darlledwyr Celtaidd yn chwilio am syniadau ffres ac unigryw am raglen hamdden newydd

Mae BBC ALBA, S4C a TG4 yn galw ar gwmnïau cynhyrchu ac unigolion i gyflwyno syniadau ffres ac unigryw ar gyfer fformat rhaglen hamdden newydd, fydd yn gweithio ar gyfer y tri darlledwr.

Nod y darlledwyr o'r Alban, Cymru ac Iwerddon, yw creu cyfres uchelgeisiol ac adloniannol, gydag apêl eang, sy'n gallu cael ei haddasu ar gyfer gwylwyr yn y tair gwlad a thu hwnt. Drwy gydweithio, y nod yw creu fformat gyda'r gobaith o'i gynnig i ddarlledwyr eraill ar y farchnad ryngwladol.

Maent yn gwahodd cynhyrchwyr teledu i gyflwyno syniadau am raglenni sy'n ddewr, beiddgar ac a fydd yn apelio'n uniongyrchol at gynulleidfa oriau brig. Maent yn chwilio am syniadau teimladwy, fydd yn gwneud i ni chwerthin neu grio, neu yn ein synnu.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, Elen Rhys; "Dwi wrth fy modd i gael cyd-weithio gyda chyfoedion yn BBC ALBA a TG4 ar y fenter gyffrous hon.

"Mae rhaglenni hamdden yn chwarae rôl bwysig yn rhan o amserlen adloniant bywiog ac atyniadol, ac mae'n faes y mae S4C yn ymdrechu i ehangu arno ar gyfer y dyfodol.

"Mae'n fenter fydd yn dod â budd i'r gwylwyr ar draws y tair cenedl yn ein hieithoedd ein hunain, wrth i ni gyflwyno cynnwys newydd ar y sgrin.

"Mae hefyd yn gyfle euraidd i gynhyrchwyr ddatblygu eu syniadau a chreu fformatau hyblyg gyda'r potensial i ehangu."

Dywedodd Margaret Cameron, Golygydd Sianel BBC ALBA; "Rydym yn gobeithio'r fawr y bydd cynhyrchwyr rhaglenni ym mhob un o'r gwledydd yn cyflwyno syniadau fydd yn ein herio ac yn ein  cyffroi. Rydym yn uchelgeisiol dros y sector ac yn gobeithio y bydd y syniadau yn uchelgeisiol hefyd."

Dywedodd Golygydd Comisiynu TG4, Máire Ní Chonláin; "Mae'r Celtiaid yn bobl greadigol ac yn llawn dychymyg ac wrth uno'r darlledwyr o Gymru, Yr Alban ac Iwerddon, gallwn edrych ymlaen at ddarganfod syniadau adloniant gafaelgar fydd yn gweithio nid yn unig ar gyfer ein sianeli ni ond a fydd yn gallu teithio'r byd hefyd."

Mae S4C, BBC ALBA a TG4 yn gwahodd cynhyrchwyr rhaglenni i gyflwyno syniadau erbyn canol dydd ar ddydd Gwener, 30 Hydref, 2015 drwy e-bost celticformats@s4c.cymru.

Dylai'r cynigion gynnwys crynodeb, triniaeth ar gyfer y fformat, awgrym o'r talentau arfaethedig ac o sut y caiff yr arian datblygu ei ddefnyddio i gynhyrchu peilot gwerth chweil a ellir cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer cyfres sy'n dychwelyd.

Dewisir un syniad i dderbyn y £15,000 o arian datblygu i greu peilot i'w gyfleu yn gynnar yn 2016.

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gyflwyno cais ar gael ?yma

Rhannu |