Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Medi 2015

Nawdd arloesi’n helpu cwmni i godi’r tonnau yn y sector ynni adnewyddadwy

Cwmni o Gymru sy’n arbenigo mewn harneisio ynni’r tonnau a lleihau costau’r ynni hwnnw yw’r cwmni cyntaf i elwa o gronfa arloesi Llywodraeth Cymru.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog becyn o £115 miliwn o gymorth i hybu arloesedd yng Nghymru gyda’r nod o greu cannoedd o gynnyrch newydd ac o swyddi o ansawdd da.

Cafodd Marine Power Systems (LTD) o Abertawe ei ffurfio i ddatblygu’r WaveSub, dyfais unigryw â phatent sy’n ffrwyno potensial ynni tonnau’r môr ac sydd â’r potensial i leihau’r costau sy’n gysylltiedig ag ynni’r tonnau.

Y cwmni yw un o’r cyntaf i elwa ar y nawdd hwn, gyda bron £225,000 ohono wedi’i neilltuo iddo i ddatblygu technoleg chwyldroadol y WaveSub a chynhyrchu prototeip fydd yn hanfodol i fynd â’r prosiect yn ei flaen

Caiff profion eu cynnal ar y prototeip yn Aberdaugleddau a bydd y canlyniadau’n cael effaith ar ddatblygiad fersiwn maint llawn y ddyfais.

Gwnaed y cyhoeddiad wrth i fusnesau, entrepreneuriaid a buddsoddwyr ddod ynghyd yng Nghaerdydd ar gyfer Venturefest Cymru, digwyddiad am ddim lle bydd cymysgedd o siaradwyr, gweithdai a thrafodaethau panel yn symbylu cynrychiolwyr i rannu syniadau, creu cysylltiadau a meithrin cyfleoedd busnes newydd.

Wrth siarad cyn ei hanerchiad i Venturefest Cymru, dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart: “Rydym, fel llywodraeth, o blaid busnesau ac mae gennym hanes o feithrin cwmnïau o Gymru a’u syniadau.

"Bwriad y pecyn nawdd hwn yw rhoi hwb i gwmnïau arloesol, chwalu rhwystrau ariannol i greadigedd a helpu troi syniadau newydd yn gynnyrch masnachol.  Bydd hynny’n arwain at greu swyddi a chyfleoedd crefftus er lles y wlad gyfan.

“Mae’n bleser cael cyhoeddi mai Marine Power Systems (LTD) fydd un o’r cyntaf i elwa ar ein harian arloesi newydd.

"Gyda’r help hwn, maen nhw wedi gallu creu prototeip sy’n hanfodol i leihau risgiau ac i ddatblygu’r cynnyrch ymhellach. Yn y pendraw, mae’n caniatáu i’r cwmni gamu at allu ei gynhyrchu’n fasnachol.

"Mae potensial anferth i ynni’r tonnau fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy a chalonogol yw gweld bod un o’n prosiectau cyntaf yn rhoi hwb i gynnydd yn y maes.”

Meddai’r Dr Gareth Stockman, Rheolwr Gyfarwyddwr Marine Power Systems: “Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan annatod o ran cefnogi datblygiad WaveSub, dyfais Marine Power Systems ac rydym yn ddiolchgar iawn mai ni yw un o’r cwmnïau cyntaf i dderbyn arian o’r gronfa arloesi hon.

"Mae canlyniadau ein gwaith hyd yn hyn wedi profi bod WaveSub yn datrys y prif broblemau sy’n wynebu dyfeisiau ynni’r tonnau ac rydym yn teimlo mai MPS yw un o’r prif gwmnïau sy’n arwain y ffordd o ran datblygu’r dechnoleg i harneisio’r ynni cyffredin hwn.

“Rydym wrth ein boddau bod mwy o gydnabyddiaeth a dealltwriaeth o argoelion chwyldroadol y ddyfais rydym wedi’i datblygu. Mae’r WaveSub yn ennyn sylw trwy’r byd gan fod y ddyfais yn gallu manteisio ar ynni amrywiaeth eang o donnau, bron ym mhob amgylchedd morol, gan ddefnyddio’r dechnoleg unigryw rydym wedi’i datblygu.

“Rydym yn disgwyl ymlaen at weithio at gamau nesaf y prosiect i gynhyrchu fersiwn maint llawn y ddyfais.”

Gyda chymorth Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a buddsoddiad gan y sector preifat, bydd y ddau brosiect arloesi: SMART Cymru ac Arbenigedd SMART yn gweithio law yn llaw â’r rhaglen bresennol Arloesi SMART.

Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio pecyn o gymorth ar gyfer busnesau a sefydliadau academaidd o Gymru, iddynt allu cynnig am nawdd ymchwil a datblygu ar y cyd a gofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth a chyngor ynghylch sut i fynd â syniadau newydd i’r farchnad. 

 

Rhannu |